Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Diolch, Llywydd. Ym mis Mai, fe wnaethom ni ennill mandad gan bobl Cymru i gyflawni ein maniffesto ni, a oedd wedi ymrwymo i greu Cymru gryfach, wyrddach a thecach. Yn ein rhaglen lywodraethu, rydym wedi amlinellu ein cynlluniau i fynd i'r afael â heriau parhaus y pandemig, ein hymadawiad ni â'r Undeb Ewropeaidd, ac argyfwng newid hinsawdd. Ein blaenoriaeth gyntaf ni yw adferiad a chefnogi ein gwasanaeth iechyd, ein hysgolion a'n heconomi i wneud hynny—y cyfan mor hanfodol i lesiant ein pobl ni.
Yr hyn sy'n amlwg hefyd, o ganlyniad yr etholiad, yw'r gefnogaeth i'n maniffesto ni ar gyfer newid a chydnabyddiaeth o'r angen i ddiwygio a gwella ein perthynas gyfansoddiadol ni â Llywodraeth y DU a chenhedloedd eraill y DU. Felly, gadewch inni ddweud yn eglur o'r cychwyn cyntaf: mae angen diwygio er mwyn ein galluogi ni i gyflawni ein hymrwymiadau i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus, datblygu economi ffyniannus, a mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb hyd eithaf ein gallu. I gyflawni polisïau sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yng Nghymru, mae'n rhaid cael cyfres gynhwysfawr o ddulliau i wneud y gwaith.
Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi amlygu diffygion ein setliad presennol, yn ogystal â thensiynau cynyddol o ran gwedd gyfansoddiadol ehangach y Deyrnas Unedig. Rydym wedi edrych ar ein cefnogaeth ni i Deyrnas Unedig a Theyrnas Unedig y mae'n rhaid iddi newid. Rydym yn parhau i arwain y ddadl yng Nghymru ac yn gwneud hynny gyda chynigion ymarferol ar gyfer newid cadarnhaol, yn fwyaf diweddar yn yr ail argraffiad o 'Diwygio ein Hundeb: Cyd-lywodraethu yn y DU'.
Llywydd, yn ein maniffesto, fe wnaethom ni addo sefydlu comisiwn i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru, ac fe fyddaf i'n nodi heddiw sut yr ydym ni'n bwriadu cyflawni'r addewid honno. O ystyried effaith uniongyrchol ein trefniadau llywodraethu ni ar fywydau pobl, rydym yn awyddus i weld y comisiwn yn arwain ymgysylltiad â'r cyhoedd i godi ymwybyddiaeth a helpu i greu cytundeb cyhoeddus ehangach. Rydym yn awyddus i'r comisiwn ganfod barn pobl ar y materion hynny sydd fwyaf pwysig yn eu golwg nhw o ran y ffordd y mae'r cyfansoddiad yn gweithio a goblygiadau hynny i'r gwasanaethau y maen nhw'n eu gwerthfawrogi. Ac rydym yn dymuno i'r comisiwn lunio cytundeb gyda chymdeithas ddinesig ynglŷn â sut rydym ni am ddiwygio cyfansoddiad y Deyrnas Unedig i adeiladu Cymru sy'n gryfach a phartneriaeth sy'n gryfach ond yn fwy teg a chyfartal.
Fe fydd y comisiwn yn gynhwysol ac fe fydd yn ymestyn y tu hwnt i Gymru hyd at wledydd, rhanbarthau a chymunedau eraill y Deyrnas Unedig i ystyried sut y gallwn ni adeiladu partneriaeth gyfansoddiadol sy'n well. Rydym yn disgwyl i'r comisiwn fod yn wynebu tuag allan ac yn ymgysylltu â chymdeithas ddinesig a'r cyhoedd mor eang â phosibl, ar gyfer cynnal sgwrs wirioneddol genedlaethol am ddyfodol Cymru. Yn benodol, rydym yn dymuno i'r comisiwn estyn allan at y rhai na fydden nhw fel arall yn barod i gymryd rhan mewn dadl o'r fath, at y bobl a'r cymunedau hynny sydd wedi ymddieithrio oddi wrth wleidyddiaeth i raddau helaeth iawn, neu sydd wedi mynd yn amheus, yn hytrach, ynglŷn â'i pherthnasedd i'w bywydau nhw a bywydau eu teuluoedd nhw a'i gallu i wneud gwahaniaeth.
Byddwn yn sefydlu comisiwn o ddinasyddion. Byddai'r rhain yn bobl i gynrychioli'r amrywiaeth yn ein cymdeithas a'n cymunedau ni, ac yn cynnwys rhai sydd â'r sgiliau a'r galluoedd sy'n deillio o brofiadau gwirioneddol bywyd a fydd yn eu galluogi nhw i estyn allan ac ymgysylltu ag eraill. Eu tasg fydd ceisio nodi a meithrin cytundeb ynglŷn â'n gwerthoedd ni a'r Gymru yr hoffem ei gweld.
Fe fyddwn ni'n annog y comisiwn i ystyried sut y gall ei waith gefnogi'r saith nod llesiant, a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a gweithredu mewn ffordd sy'n gyson â'r pum ffordd o weithio a nodir yn y Ddeddf.
Fe fyddwn ni'n annog y comisiwn i nodi a dysgu o'r enghreifftiau gorau o ymgysylltu â dinasyddion a bod yn arloesol yn y ffordd y mae'n ymdrin â'i dasg. Mae'n rhaid iddo fod yn gomisiwn i'r bobl, gan gymryd rhan mewn sgwrs gyda phobl, gydag ymgysylltiad gwirioneddol ar lawr gwlad, a'r ffordd y byddwn ni'n cyflawni hynny fydd ein her fwyaf ni. Fe fydd angen inni ddatblygu ieithwedd newydd o ran ymgysylltu, un sy'n osgoi iaith gwleidyddiaeth a chyfansoddiadau yr ydym ni mor gyfarwydd â hi, ieithwedd sy'n ymdrin â'r pethau sy'n berthnasol i fywydau pobl yn uniongyrchol. Ond i wneud hyn, fe wyddom fod yn rhaid i waith y comisiwn gael ei lywio gan dystiolaeth a dadansoddiad cadarn.
Yn ogystal â'n galwad ni am dystiolaeth ac ymgysylltiad ag academyddion yn ôl ein harfer, rydym ni'n bwriadu sefydlu panel o arbenigwyr yn gyfochrog â'r comisiwn. Fe fydd y panel hwn yn ymgymryd ag ymchwil a dadansoddiadau y gall y comisiwn ddatblygu syniadau ac argymhellion ohonynt. Rydym yn rhagweld y bydd y panel yn cynnwys arbenigedd sefydledig o Gymru a thu hwnt. Fe fydd yn cynnig arbenigedd a data cadarn a gwybodaeth a fydd, rwy'n gobeithio, yn rhyddhau mwy o amser i'r comisiynwyr ar gyfer canolbwyntio ar y sgwrs fawr yr ydym ni'n awyddus i'w chychwyn.
Yr allwedd i sicrhau llwyddiant y comisiwn fydd ei gyfansoddiad. Fe fydd yn rhaid iddo fod yn fedrus ac yn annibynnol. Fe fydd yn rhaid iddo gynrychioli'r gymdeithas y bydd yn ymgysylltu â hi i'r graddau mwyaf posibl. Fe fydd hyn yn cynnwys cynrychiolaeth o amrywiaeth o gefndiroedd gwleidyddol a dinesig. Fe fydd yn rhaid iddo allu dangos ei arbenigedd hefyd, a bydd yn rhaid i'w aelodau gynrychioli pob oedran a'u tynnu o'r ystod ehangaf bosibl o sectorau mewn cymdeithas ddinesig: sefydliadau cyhoeddus, preifat, trydydd sector, dinesig a llawr gwlad yn ogystal â phartneriaid cymdeithasol.
Fe fydd swyddogaeth y cadeirydd neu'r cyd-gadeiryddion yn allweddol ac fe fydd angen iddi roi arweiniad wrth weithio tuag allan yn ogystal â meithrin cytundeb o fewn y comisiwn. Dros yr haf, fe fyddwn ni'n ystyried y materion yn fanylach ac yn cael trafodaeth bellach am y comisiwn gyda'r holl bleidiau a gynrychiolir yn y Senedd, ac rwy'n bwriadu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi yn ystod tymor yr hydref, a hynny cyn gynted â phosibl. Diolch, Llywydd.