Part of the debate – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
A gaf i ddweud fy mod i'n croesawu'r ffaith eich bod chi wedi gwneud y datganiad hwn i'r Siambr heddiw yn hytrach nag i'r cyfryngau yn gyntaf? Rwyf i o'r farn y gallai rhai o'ch cyd-Aelodau ddysgu llawer oddi wrthych, Gweinidog.
Fel rydym wedi dweud yn y gorffennol, nid ydym o'r farn fod yna unrhyw awydd ymhlith y cyhoedd i hon fod yn flaenoriaeth ar hyn o bryd, ond rydym ni'n derbyn bod gan Lywodraeth Cymru wahanol safbwyntiau, a dyna pam rydych chi wedi cyflwyno'r datganiad arbennig hwn. Rydym ni'n credu y dylai holl egni Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar flaenoriaethau eraill, fel mynd i'r afael ag adferiad economaidd, a sicrhau bod ein GIG yn gallu ymdopi â'r gwaith sydd wedi pentyrru ar hyn o bryd o ganlyniad i'r pandemig ac, yn wir, ar helpu ein hysgolion ni a'n system addysg ni i gael adferiad o COVID hefyd. Ond, o ystyried eich bod chi wedi gwneud y datganiad hwn, rwyf am ofyn nifer o gwestiynau heddiw. Yn gyntaf oll, roeddech chi'n dweud,
'O'r cychwyn cyntaf: mae angen diwygio er mwyn ein galluogi ni i gyflawni ein hymrwymiadau i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus, datblygu economi ffyniannus, a mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb'.
Ac eto, y gwir amdani yw nad ydym wedi mynd i'r afael â thlodi, nad yw ein heconomi ni'n ffynnu mwy, nad yw ein gwasanaethau cyhoeddus ni gystal ag y dylen nhw fod, ond nid oes a wnelo hynny ddim â'r ffaith nad oes gan y Senedd hon y pwerau sydd eu hangen; ond oherwydd bod gennym ni Lywodraeth Lafur yng Nghymru sydd wedi methu â mynd i'r afael â'r materion penodol hyn dros y degawdau.
Nawr, rydych chi wedi sôn am bwysigrwydd y comisiwn hwn wrth symud ymlaen. A wnewch chi roi amserlen inni ar gyfer cwblhau ei waith? Fe gawsom restr faith gennych chi o sefydliadau unigol a rhanddeiliaid eraill yr ydych chi'n dymuno iddyn nhw fod â rhan yn y comisiwn. Beth fydd maint hwn? Faint fydd yn ei gostio? A fydd y swyddi hyn yn swyddi â thâl? Pa mor hir yw darn o linyn? Rwyf i o'r farn pe byddai'r comisiwn o faint sylweddol, fe fydd yn llawer rhy fawr ac yn llawer rhy anhylaw i allu cyflawni unrhyw ganlyniadau rhesymol.
Rydych chi wedi sôn am gael cadeirydd neu gyd-gadeiryddion o bosibl. Nid wyf i'n gwybod dim am y trefniadau y gallech chi eu rhagweld ynglŷn â gallu'r cadeiryddion i edrych ar y gwaith a chydlynu gwaith y comisiwn arbennig hwn, ond a yw hynny'n golygu cadeirydd a chyd-gadeirydd i'r panel arbenigol ac i'r comisiwn? Roeddech chi'n dweud eich bod chi'n dymuno cael comisiwn ag arbenigedd ganddo, ac eto rydych chi'n sefydlu panel arbenigol yn gyfochrog. A fydd hwnnw'n cystadlu ag ef o ran yr arbenigedd yr ydych chi'n disgwyl i'r comisiwn hwn ei gael? Yn eich barn chi, beth fydd allbwn y comisiwn hwn? Rwy'n cymryd yn ganiataol eich bod chi'n chwilio am restr o argymhellion i'r Llywodraeth eu hystyried, neu ai gwaith i'r Senedd hon fydd eu hystyried nhw yn eu cyfanrwydd?
Yn bwysig iawn, a fydd y comisiwn hwn yn edrych nid yn unig ar y trefniadau cyfansoddiadol ledled y DU gyfan, ond a fydd yn edrych ar y trefniadau datganoli a chyfansoddiadol yng Nghymru hefyd? A fydd yn rhoi ystyriaeth i'r galw yn ein hawdurdodau lleol ni a'n rhanbarthau ni yng Nghymru i weld datganoli mwy o gyfrifoldebau iddyn nhw—i'r gogledd, i'r gorllewin, i Abertawe ac ardal dinas Abertawe, fel mae Mike Hedges yn ein hatgoffa ni'n rheolaidd? Rwy'n credu bod y pethau hyn yn rhai na ddylid rhwystro'r comisiwn rhag eu hystyried, ac rwy'n credu fod yna awydd i ystyried y pethau hynny, ac, yn wir, os gwneir hynny, credaf y byddai honno'n sgwrs ddefnyddiol iawn i ni ei chael.
Pa fath o gwestiynau y byddwch chi'n gofyn i'r comisiwn eu hystyried? Mae'n rhaid bod gennych chi ryw syniad eisoes sut rai fyddan nhw. Mae'n amlwg eich bod chi wedi gosod stondin Llywodraeth Cymru eisoes yn eich papur, 'Diwygio ein Hundeb'. A fydd y comisiwn hwn yn edrych ar eich papur ac yn penderfynu a yw'r pethau hynny'n synhwyrol neu beidio, neu a fydd ganddo'r rhyddid yr wyf i'n credu y bydd ei angen ar unrhyw gomisiwn i allu gwneud rhywbeth defnyddiol na ellir ei wneud mewn ffyrdd eraill?
Rwyf am dawelu nawr am fy mod i wedi gofyn llawer o gwestiynau, Llywydd. Ond rwy'n croesawu'r ffaith eich bod chi wedi ymrwymo i ymgysylltu â phob plaid wleidyddol ynglŷn â hyn hefyd, ac rydym ni'n edrych ymlaen at allu cyfrannu mewn ffordd ystyrlon at ddatblygiad y comisiwn a'r gwaith pwysig yr ydych chi'n awyddus iddo ei wneud wrth symud ymlaen.