Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Dwi eisiau adlewyrchu’r pwynt mae’r Aelod wedi’i ddweud am bwysigrwydd mynediad teg ymhob cwr o Gymru i ddisgyblion sydd eisiau addysg Gymraeg. Dyna’n sicr yw nod Llywodraeth Cymru. Dyna’n sicr yw’r galw oddi wrthym ni i lywodraeth leol dros y cyfnod nesaf o ran cynlluniau strategol uchelgeisiol i sicrhau ein bod ni’n symud yn gyflymach tuag at wireddu’r nod hwnnw.
O ran y sefyllfa benodol mae wedi’i chodi heddiw, mae fy swyddogion i wedi bod mewn trafodaethau gyda swyddogion y cyngor, a byddaf i’n hapus i ysgrifennu ymhellach at yr Aelod ynglŷn â hynny.