Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi hefyd, Weinidog, am y datganiad. Rwy’n croesawu uchelgais y Llywodraeth yn y maes hwn, ac rwy'n cytuno fod coed yn rhyfeddol. Mae mor bwysig bod Cymru yn cael economi coedwigoedd sydd yn gwarchod coed, sy'n ehangu'r niferoedd o goed yn y wlad ac sy'n creu swyddi a deunyddiau adeiladu fydd yn rhan o'n hadferiad economaidd. Mae'n amlwg y bydd angen buddsoddiad sylweddol mewn sgiliau yn y gweithlu a hefyd mewn technoleg plannu coed. Gall miloedd o swyddi gael eu creu, a bydd buddiannau mawr i'n cymunedau yn dod fel canlyniad. A allaf i ofyn, felly, am fwy o fanylder ar sut y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y sgiliau hyn y bydd eu hangen ar gyfer cyrraedd y targedau, ac a fydd Llywodraeth Cymru yn annog mwy o bobl newydd mewn i'r diwydiant yma trwy brentisiaethau? Byddai'n dda cael manylder ar hynny ac amserlen fras, os yn bosib. Ac a fyddech chi'n gallu manylu rhywfaint ar sut y byddech chi'n buddsoddi yn y dechnoleg angenrheidiol ar gyfer y cynlluniau uchelgeisiol hyn?
Gan droi at ffermydd, y pwnc sydd wedi codi yn barod yn ein trafodaethau heddiw: dŷn ni'n gwybod pa mor bwysig yw hi i blannu coed mewn ffordd sydd wedi cael ei thargedu'n effeithiol; bod angen y goeden gywir yn y lle cywir am y rhesymau cywir. Ac mae angen i'r cynlluniau hyn wneud yn siŵr eu bod yn cynnwys y bobl sydd yn gwybod y tir, gan gynnwys ffermwyr. Rydych chi wedi cyfeirio, Weinidog, yn barod at dystiolaeth sydd yn peri pryder am ffermydd cyfan yn cael eu prynu gan gwmnïau mawr rhyngwladol er mwyn plannu coed, ac mae wedi dod i'n sylw ni y gallai arian Glastir gael ei ddefnyddio i helpu cynlluniau fel hyn. Dwi'n gwybod fod hyn wedi cael ei drafod yn barod yn beth oedd Janet Finch-Saunders yn codi, ond buaswn i hefyd yn awyddus i roi ar y record pa mor bwysig fydd hi i gefnogi cymunedau gwledig i wneud yr hyn sy'n angenrheidiol eu hunain, er mwyn helpu i gyrraedd y targedau. Felly, beth fyddwch chi'n ei wneud er mwyn gweithio gyda'r cymunedau, gweithio gyda'r ffermwyr yn y man yna?
Ac i droi, yn olaf, at blannu coed trefol, neu yn ein trefi a phentrefi, mae buddiannau amlwg yn dod o blannu coed mewn ardaloedd o'r fath, gan gynnwys ansawdd aer, lleihau sŵn a rheoli tymheredd. Mae nifer o'r ffactorau hyn yn cael effeithiau da ar iechyd meddwl a seicoleg trigolion y trefi hefyd.
Nawr, a allwch chi—? A dyma fy nghwestiwn olaf, felly, yn mynd mewn i a fydd Llywodraeth Cymru yn gallu manylu yn fwy ar sut fyddwch chi'n manteisio ar y buddion mwyaf posibl o blannu coed yn ein trefi, gan gynnwys yr amrywiaeth angenrheidiol o fathau gwahanol o goed, a beth fydd y Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â'r bygythiadau a'r pwysau sydd yn wynebu coed trefol? Diolch.