Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'r Llywodraeth yn cytuno'n llwyr ei bod hi'n bwysig bod ymchwiliad diduedd a phriodol yn cael ei gynnal i'r ffordd rydyn ni wedi delio â'r pandemig. Mae angen casglu a didoli tystiolaeth mewn ffordd systematig, wrth wrando'n ofalus ar storïau’r rheini a welodd eu bywydau'n cael eu chwyldroi mewn ffordd mor ddramatig ac enbyd yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae angen dadansoddi'r pethau da a phethau nad oedd cystal, a dwi'n gwybod bod llawer wedi enwi rhai o'r rheini heddiw. Ac mae angen argymell i Lywodraethau, ac i gymdeithas yn gyffredinol, beth y gallwn ni ei ddysgu o'n profiad o'r pandemig er mwyn inni fod yn barod i ddelio â heriau tebyg yn y dyfodol. Er hynny, byddwn ni yn pleidleisio yn erbyn y cynnig hwn.
Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi dweud wrth y Senedd ei fod yn cytuno â Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig y dylai ymchwiliad cyhoeddus y dywedodd ei fod am ei ddechrau yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf ymdrin â'r Deyrnas Unedig yn gyfan. Fel rhan o hynny, bydd yn edrych ar wahân ar yr hyn ddigwyddodd yng Nghymru. Rŷn ni'n credu—a dyna gred Prif Weinidog y Deyrnas Unedig hefyd, mae'n amlwg—mai dyma'r trefniant gorau i Gymru.
Mae Cymru wedi bod yn gyfrifol sawl gwaith dros y cyfnod yma am ddelio yn ei ffordd ei hun ag agweddau o'r pandemig, ac ambell waith, fel y gwyddom, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu i wneud pethau mewn ffordd wahanol i Loegr, ac, wrth gwrs, mae'n deg bod ymchwiliad yn ystyried y materion hynny. Ond cafodd penderfyniadau eraill eu gwneud ar lefel y Deyrnas Unedig yn gyfan, a'r unig ffordd briodol o ystyried y rheini yw trwy edrych ar sefyllfa y Deyrnas Unedig yn gyfan, a dyna pam dwi ddim yn cytuno â phobl fel Peter Fox. Byddai cynnal ymchwiliad ar wahân i Gymru, fel sydd wedi'i awgrymu, naill ai'n arwain at ddyblygu llawer o'r gwaith fydd yn cael ei wneud gan ymchwiliad ar lefel y Deyrnas Unedig, neu Loegr yn unig, neu'n golygu na fyddai agweddau pwysig ar y pandemig a ddylai cael eu hystyried yn rhan o ymchwiliad Cymreig. Mae cytundeb felly rhwng Prif Weinidog Cymru a Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig i gynnal ymchwiliad ar lefel y Deyrnas Unedig yn gyfan yn mynnu y dylid rhoi sylw penodol i Gymru yn yr ymchwiliad yma.
Wrth gwrs, mae llawer o benderfyniadau heb eu gwneud eto ynghylch yr ymchwiliad. Bydd angen diffinio ei bwrpas yn ofalus iawn i wneud yn siŵr ei fod yn ystyried y pethau iawn. Bydd angen penderfynu ar gwmpas y gwaith. Mae'r pandemig wedi effeithio mwy neu lai ar bob agwedd ar fywydau pobl ac ar bob rhan o gymdeithas, felly efallai y bydd cwmpas yr ymchwiliad yn un eang iawn, iawn. Ond, ar yr un pryd, rhaid gallu cadw rheolaeth ar y gwaith a rhaid ei gwblhau o fewn amser rhesymol. Felly, bydd angen taro ar y cydbwysedd cywir. Bydd angen llunio cylch gwaith yr ymchwiliad yn ofalus a chytuno arno. Bydd y ffordd yr aiff yr ymchwiliad i'r afael â'r gwaith yn bwysig hefyd, ac wrth gwrs mae'r cwestiwn o bwy ddylai cynnal yr ymchwiliad yn hynod o bwysig hefyd.