Mercher, 14 Gorffennaf 2021
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt...
Yr eitem gyntaf felly yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Darren Millar.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd yng Ngorllewin Clwyd? OQ56764
2. Beth yw cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer defnyddio technoleg arloesol i wella ansawdd aer yng Nghymru? OQ56760
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Natasha Asghar.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelwch tân mewn fflatiau uchel yng Nghaerdydd? OQ56782
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd gyda'r Gweinidog gan arweinwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch Cyfoeth Naturiol Cymru? OQ56769
5. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r toriadau a wnaed i'r gyllideb taliad disgresiwn at gostau tai gan Lywodraeth y DU? OQ56771
6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r cyfraniad y byddai morlyn llanw bae Abertawe yn ei wneud tuag at gyrraedd targedau amgylcheddol Llywodraeth Cymru? OQ56774
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau tai Llywodraeth Cymru ar gyfer Gogledd Cymru? OQ56779
8. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o allbwn carbon Llywodraeth Cymru? OQ56763
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg sydd nesaf, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mabon ap Gwynfor.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynllun tai cymunedau Cymraeg? OQ56784
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysg yng Ngogledd Cymru? OQ56780
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr—Laura Jones.
3. Pa ddarpariaethau sydd ar gael i blant a phobl ifanc yng Nghanol Caerdydd o gynllun adnewyddu a diwygio Llywodraeth Cymru dros wyliau'r haf? OQ56786
4. Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i leihau'r amser ysgol a gaiff ei golli yn ystod pandemig COVID-19? OQ56772
5. Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cymell colegau i gadw cyrsiau amaethyddol ac amgylcheddol? OQ56767
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyrhaeddiad addysgol yng Nghymru? OQ56758
7. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu'r pwyslais ar chwaraeon ac addysg gorfforol yn y cwricwlwm? OQ56790
8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am rôl consortia addysg rhanbarthol? OQ56783
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar gynllun rheoli'r coronafeirws. Brif Weinidog.
Ni chafwyd unrhyw gwestiynau amserol.
Felly, eitem 5, datganiadau 90 eiliad. Elin Jones.
Eitem 6: cynnig i sefydlu pwyllgor o dan Reol Sefydlog 16.1. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Siân Gwenllian.
Eitem 7: cynnig i ethol Aelodau i bwyllgor, Pwyllgor y Llywydd. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Siân Gwenllian.
Eitem 8: dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, sef Bil gofal preswyl i blant. Galwaf ar Jane Dodds i wneud y cynnig.
Eitem 9 yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig: ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r ffordd yr ymdriniwyd â phandemig COVID-19. Galwaf ar Russell George i wneud y cynnig a gyflwynwyd yn enwau Darren...
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliant 2 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf ar y ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod—dadl ar gynnig Bil gofal preswyl plant oedd honno. Dwi'n galw am bleidlais ar y...
Nawr, fe fyddwn ni'n symud ymlaen i'r ddadl fer, ac mae'r ddadl fer y prynhawn yma i'w chyflwyno gan Buffy Williams. Buffy Williams.
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd cynllun cymorth i brynu Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am system swigod COVID-19 mewn ysgolion?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddirywion i awdurdodau lleol am fethu â chwrdd â thargedau ailgylchu?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia