Part of the debate – Senedd Cymru am 5:14 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Nid oes yr un o'r cwestiynau pwysig hyn wedi'u hateb eto, a bydd angen ystyried pob un yn ofalus. Bydd angen ymgynghori a chytuno arnynt cyn y gall yr ymchwiliad ddechrau ar ei waith, a fydd yn digwydd y flwyddyn nesaf, gobeithio.
Rwyf wedi gwrando'n astud iawn ar y pwyntiau a wnaed yn y ddadl hon, a byddaf yn sicrhau bod y pwyntiau hynny'n cael eu hystyried wrth i drafodaethau barhau rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r gweinyddiaethau datganoledig ar sefydlu'r ymchwiliad. Ac wrth gwrs, bydd cyfleoedd pellach i'r materion hyn gael eu hystyried yn y dyfodol.
Gwn fod galwadau wedi bod am ymchwiliad brys yng Nghymru i'n galluogi i ddysgu gwersi y gallwn eu defnyddio ar unwaith mewn perthynas â'r pandemig. Ond mae'n bwysig iawn inni gofio nad yw'r pandemig ar ben. Rydym i gyd yn gyfarwydd â'r niferoedd cynyddol a welwn yn awr wrth inni nesu at anterth y drydedd don. Yr union bobl y mae angen iddynt ganolbwyntio ar gadw pobl yn ddiogel, ar barhau i wneud penderfyniadau anodd i lywio Cymru drwy'r pandemig, fyddai'r bobl y byddai angen iddynt gyfrannu at yr ymchwiliad, ac nid dyma'r adeg i dynnu eu sylw ac ychwanegu at eu llwyth gwaith.
Dylem atgoffa ein hunain nad ymchwiliadau cyhoeddus yw'r unig ffordd, ac weithiau nid y ffordd orau, o wella ymarfer yn gyflym. Mae ymchwiliadau cyhoeddus yn llawer o bethau, ond nid ydynt yn bethau y dylid eu gwneud ar frys, mae arnaf ofn. Rhaid eu sefydlu yn unol â deddfwriaeth benodol sy'n llywodraethu ymchwiliadau, mae'n cymryd amser i nodi cadeirydd, penderfynu ar gwmpas, ymgynghori ar gylch gwaith a rhoi'r gwaith ar y gweill. Wedyn, rhaid i'r ymchwiliad alw am dystiolaeth a gwrando ar dystiolaeth lafar, a didoli ac ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynir iddo cyn iddo ddod i'w gasgliadau a'i argymhellion. Nid yw hynny'n mynd i ddigwydd dros nos.
Mae llawer o systemau adborth a dysgu eraill y gall y Llywodraeth a'r GIG eu defnyddio i addasu dulliau gweithredu yng ngoleuni profiad. Rydym yn defnyddio'r mecanweithiau hyn mewn amser real i addasu arferion wrth i ni fynd yn ein blaenau. Mae sefydlu ymchwiliad Cymreig, fel y mae rhai wedi'i gynnig, ac am y rhesymau gorau rwy'n siŵr, yn bwysig i rai, rwy'n derbyn hynny, ond byddai'n arafu ein dull hyblyg o ddefnyddio profiad i ddatblygu ein dull o ymdrin â cham nesaf y pandemig. Fel y nododd Jane Dodds, byddai hefyd yn tynnu sylw oddi ar fynd i'r afael ag ôl-groniad y rhestrau aros.
Rydym yn cydnabod yr effaith y mae'r pandemig COVID wedi'i chael ar bawb, a'r modd y mae pobl wedi dioddef yn sgil colli anwyliaid. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i ddysgu a gwella canlyniadau. Er enghraifft, mae'r GIG yng Nghymru wedi rhoi fframwaith ar waith i adolygu pob achos o drosglwyddo COVID-19 mewn ysbytai fel y gallant nodi unrhyw wersi i'w dysgu, ac yn bwysig, helpu i ateb cwestiynau a allai fod gan deuluoedd. Mae trefniadau sefydledig ar waith hefyd, o'r enw 'Gweithio i Wella', ar gyfer mynegi pryderon am ofal a thriniaeth cleifion, a byddem yn annog unigolion i gysylltu â'u bwrdd iechyd unigol yn uniongyrchol os oes ganddynt bryderon. Mae prosesau adolygu sefydledig ar waith ar gyfer marwolaethau i adolygu yr holl farwolaethau yn yr ysbyty. Yn ogystal, mae'r gwasanaeth archwilydd meddygol newydd wrthi'n cael ei gyflwyno ledled Cymru a bydd hwnnw yn gynyddol yn cynnwys craffu annibynnol ar bob marwolaeth.
Mae llawer o gytundeb yn y Senedd heddiw. Rydym i gyd yn rhannu barn ei bod yn briodol cael ymchwiliad trylwyr, annibynnol a phroffesiynol i ba mor barod oedd y DU ar gyfer pandemig a sut y mae'r pandemig wedi cael ei reoli fel y gellir dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol. Bydd Llywodraeth Cymru yn wynebu'r ymchwiliad sydd ar y ffordd gydag ymagwedd gadarnhaol ac adeiladol er mwyn cynorthwyo'r ymchwiliad i wneud y gwaith gorau posibl a helpu i alluogi'r wlad i fod mewn sefyllfa briodol i ymdrin ag argyfyngau iechyd byd-eang yn y dyfodol. Ond nid dyma'r adeg ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus yng Nghymru.