Part of the debate – Senedd Cymru am 6:08 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Dwi'n gorffen gyda hyn, Llywydd: mae ehangu prydau ysgol am ddim hefyd yn rhoi'r cyfle inni sicrhau bwyd iachach i'n plant a chynyddu cynnyrch garddwriaethol yma yng Nghymru. I gloi, felly, byddai prydau bwyd am ddim i blant cynradd nid yn unig yn arwain at well batrymau bwyta'n iach, lleihau gordewdra, gwella'r gallu i ganolbwyntio yn y dosbarth ac yn lleihau'r stigma sy'n gysylltiedig â thlodi, ond mae hefyd iddo fanteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Felly, am bob math o resymau da, Llywydd, dwi'n erfyn ar bawb i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch yn fawr.