Part of the debate – Senedd Cymru am 6:26 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Diolch yn fawr. Diolch i bawb am eu cyfraniadau y prynhawn yma. Mae siaradwyr Plaid Cymru wedi gosod y ddadl yn rymus iawn, yn gosod y cyd-destun ac yn amlinellu'r galwadau sydd yn cael mwy a mwy o gefnogaeth wrth inni drafod y mater yma a dwi ddim yn ymddiheuro am ddod â'r mater yn ôl yn fuan yn y Senedd yma. Mi wnaethom ni drafod hwn yn y Senedd ddiwethaf hefyd ac mae o angen bod ar yr agenda. Byddwn ni yn sicr ddim yn gadael i hyn fynd. Roedd Cefin yn sôn am fantais ein polisi ni o ran cryfhau'r economi fwyd leol, ac mae hwnna'n rhan greiddiol o'r hyn rydym ni'n ei gynnig.
Mae'r Torïaid yn colli'r pwynt yn llwyr. Mae yna dystiolaeth gadarn sy'n dangos bod cynnig cinio am ddim i bawb yn fanteisiol am nifer fawr o resymau ac mai'r garfan a fyddai'n elwa mwyaf ydy'r plant mwyaf difreintiedig, ac fe eglurodd Luke Fletcher hynny gan siarad o brofiad personol. Gaf i egluro i Mike Hedges mai polisi ar gyfer ysgolion y wladwriaeth ydy polisi Plaid Cymru ac na fyddai'n cynnwys nac yn ymestyn i'r sector breifat? Felly, gobeithio efo'r eglurhad hwnnw, er nad ydy o'n egluro hynny yn llythrennol yng ngeiriad cynnig, ond efo fi yn dweud hyn rŵan fel eglurhad, gobeithio y medrwch chi gefnogi ein cynnig ni, neu dwi ddim yn siŵr ai dadlau yn erbyn yr egwyddor o universalism y mae Mike, sydd yn egwyddor sydd wedi cael ei derbyn, wrth gwrs, gan y Blaid Lafur.
Yn y Ffindir, Sweden ac Estonia, mae prydau ysgol am ddim ar gael i bob disgybl ysgol, nid y disgyblion tlawd yn unig, ac rydym ni'n gwybod pa mor llwyddiannus ydy systemau addysg y gwledydd hynny. Yn yr Alban a Lloegr, mae pob plentyn oedran ysgol, yn nhair blynedd gyntaf eu haddysg, yn derbyn prydau ysgol am ddim, beth bynnag fo incwm y teulu. Yng Ngogledd Iwerddon, mae'r trothwy enillion i'r rhai sy'n derbyn credyd cynhwysol wedi'i osod ar lefel uchel, gan helpu cefnogi mwy o deuluoedd sy'n gweithio. Ac mae peryg y bydd Cymru'n syrthio ymhellach ar ei hol hi. Mae Llywodraeth yr Alban bellach yn bwriadu cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd erbyn mis Awst y flwyddyn nesaf. Felly, mae gwrthwynebiad Llywodraeth Cymru i ymestyn prydau ysgol am ddim i bob teulu ar gredyd cynhwysol yn mynd yn anoddach ac yn anoddach i'w gyfiawnhau.
Mae yna gymhlethdod ariannol, oes, ond os ydy rhoi cinio am ddim i rai o blant mwyaf tlawd ein gwlad ni yn flaenoriaeth, ac y mae o, yn ôl beth dwi'n ei glywed, yn rhywbeth sydd yn bwysig i'r Gweinidog addysg, yna mae'n rhaid canfod ffordd o gwmpas y cymhlethdod ariannol yna, ac mae'n rhaid ei osod o'n flaenoriaeth gyllidebol. A dyna ydy pwrpas cyllidebau. Pwrpas cyllideb ydy gosod gwariant yn unol â blaenoriaethau a dwi'n edrych ymlaen at weld ffrwyth gwaith yr ymchwil cyllidol sydd yn digwydd.
Dwi yn falch eich bod chi yn mynd i fod yn gweithio efo'r Sefydliad Bevan i ddeall sut maen nhw wedi bod yn gweithio ac ar y dadansoddiad maen nhw wedi'i wneud. Maen nhw yn amcangyfrif y byddai'r gost o ymestyn prydau ysgol am ddim i bob myfyriwr ysgol mewn teuluoedd ar gredyd cynhwysol yn costio £10.5 miliwn. Mae hynny'n llai na 0.06 y cant o gyfanswm cyllideb refeniw Llywodraeth Cymru, ond, wrth gwrs, mi fyddai'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r teuluoedd tlotaf yng Nghymru, gan arbed dros £1,300 y flwyddyn ar gyfartaledd iddyn nhw.
O ran y cynnig sydd gerbron heddiw, rydyn ni siomedig o weld y Llywodraeth yn cynnig gwelliant sy'n golygu rhagor o ddiffyg gweithredu. Dydy adolygu ddim yn rhoi'r sicrwydd rydyn ni'n chwilio amdano, ac os bydd y cynnig yn cael ei wella yn y modd yna, fyddwn ni ddim yn gallu ei gefnogi, a byddwn ni yn ymatal ein cefnogaeth. Pwy all fod yn erbyn cefnogi mesur fyddai'n helpu dileu tlodi, yn lleihau anghydraddoldeb, yn lleihau pwysau ar gostau byw teuluoedd, yn helpu cyrhaeddiad a phrofiad dysgu, yn gwella iechyd plant ac yn lleihau'r stigma a'r boen feddyliol sydd yn deillio o dlodi? Cefnogwch y cynnig, a da chi, Llywodraeth Cymru, gwnewch hyn yn flaenoriaeth.