Part of the debate – Senedd Cymru am 6:41 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf ar y ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod—dadl ar gynnig Bil gofal preswyl plant oedd honno. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Dodds. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, 15 yn ymatal, 14 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo.