Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Ac a gaf fi fod y cyntaf i ddiolch i Lywodraeth Cymru am y rhaglen waith newydd y mae'n gobeithio ei lansio yn ardaloedd Tywyn, Bae Cinmel a Llanddulas yn fy etholaeth, sydd wedi wynebu perygl llifogydd ers blynyddoedd lawer, gan gynnwys, wrth gwrs, y llifogydd mwyaf dinistriol o fewn cof yng Nghymru yn 1990? Un o'r pryderon ynghylch y cynlluniau a allai gael eu rhoi ar waith yn awr yn y llain arfordirol honno yw effaith weledol unrhyw newidiadau i'r amddiffynfeydd rhag llifogydd. Fe fyddwch yn ymwybodol fod twristiaeth yn bwysig iawn i'r economi leol yn y rhan hon o fy etholaeth. Felly, tybed pa waith y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ganiatáu er mwyn sicrhau bod yr amddiffynfeydd gwell rhag llifogydd hefyd yn gwella'r amwynder i drigolion lleol ar hyd y promenâd ac yn ddeniadol i drigolion yn ogystal ag ymwelwyr.