Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Diolch yn fawr, Weinidog. Roeddwn yn falch iawn o weld y datganiad yn gynharach. Gwn fod hwn yn fater rwyf fi ac eraill ar draws y pleidiau wedi'i godi ar sawl achlysur y tymor hwn, a hynny am fod pobl sy'n gaeth yn eu cartrefi yn cysylltu â ni—fel y maent yn cysylltu â chithau, rwy'n siŵr—yn ddyddiol. Mae hyn wedi cael effeithiau difrifol ar eu harian a'u hiechyd. A nodaf o ymatebion blaenorol gennych chi a'r Trefnydd eich bod yn gweithio ar hyn, ond fel rydych yn deall, yr hyn sydd ei angen ar drigolion yn benodol yw'r manylion am unrhyw gymorth ariannol ac unrhyw gymorth adfer gan Lywodraeth Cymru. Bydd protest yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn i dynnu sylw at eu sefyllfa; a allant gael mwy o atebion cyn dydd Sadwrn? Diolch.