Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Wel, y gwir amdani, Jenny, yw nad oes gennym unrhyw ffordd o gwbl o sicrhau eu bod yn gweithredu yn unol â'u rhwymedigaethau moesol; nid oes unrhyw ddull cyfreithiol y gall Llywodraeth Cymru ei ddefnyddio i wneud hynny. Fel y gwyddoch, rwyf wedi gofyn i'r holl ddatblygwyr sy'n ymwneud ag adeiladau uchel iawn yng Nghymru gyfarfod â mi. A bod yn deg, mae sawl un ohonynt wedi gwneud hynny, ac mae sawl un ohonynt wedi rhoi rhywfaint o arian tuag at unioni rhai o'r diffygion yn rhai o'r adeiladau.
Nid yw rhai o'r datblygwyr wedi cyfarfod â mi o gwbl. Rwyf wedi cyhoeddi galwad derfynol i bobl gyfarfod â mi, a byddwn yn cael cyfarfod bord gron gyda'r rhai sy'n barod i weithio gyda ni yn yr hydref. Ar y pwynt hwnnw, rwyf wedi gofyn am gyngor i weld a gaf fi enwi a chodi cywilydd ar y rhai nad ydynt wedi cysylltu â ni, felly rwyf yn y broses o gael y cyngor hwnnw.
Ond mae'r cymhlethdodau cyfreithiol yn hyn yn aruthrol. Codwyd pob un o'r adeiladau hyn, bron â bod, gan yr hyn a elwir yn SPVs—cyfryngau at ddibenion arbennig. Nid hwy yw'r cwmni daliannol—yr enw ar y blaen. Maent yn gyfrwng at ddiben arbennig a ffurfiwyd at y diben o adeiladu'r adeilad, cyn cael ei ddiddymu. Felly, nid oes endid corfforaethol y gallwch ei ddal yn gyfreithiol gyfrifol.
Mae Llywodraeth y DU, a bod yn deg, wedi cynnig ymestyn cyfnod y cyfyngiad—nid ydynt wedi gwneud hynny eto; mae'n rhan o'r ddeddfwriaeth sy'n mynd drwy Senedd y DU ar hyn o bryd—o chwe blynedd i 15 mlynedd, a fydd yn sicr yn helpu. Yn anffodus, yma yng Nghymru, codwyd bron bob un o'r adeiladau sydd yma ym Mae Caerdydd ac yn Abertawe, sef y ddwy ddinas fawr yr effeithiwyd arnynt fwyaf, oddeutu adeg y mileniwm, a bydd y rhai ohonom sydd ychydig yn hŷn yn synnu clywed bod hynny 21 mlynedd yn ôl ac nid 15 mlynedd—mae'n teimlo fel y dydd Mawrth diwethaf i rai ohonom.
Yn anffodus, ni fydd hynny'n helpu'r adeiladau hynny, gan y byddant y tu allan i'r cyfnod beth bynnag, felly mae honno'n broblem. Rydym wedi gofyn am ymestyn y cyfnod i 25 mlynedd, ond mae Llywodraeth y DU wedi dewis 15, am amryw resymau. Ni fydd y 15 mlynedd yn cychwyn tan i'r Bil gael ei dderbyn ac nid yw wedi ei dderbyn eto, felly ni fydd rhai adeiladau sy'n gymwys ar hyn o bryd yn gymwys pan gaiff y Bil ei roi mewn grym. Yn ogystal, hyd yn oed os ydynt o fewn cyfnod y cyfyngiad, mae'n rhaid iddynt ddod o hyd i'r endid corfforaethol sy'n gyfrifol, ac os cawsant eu hadeiladu gan gyfrwng at ddibenion arbennig, byddai hynny'n anodd iawn. Felly, ni cheir un ateb syml i ddatrys y broblem.
A bod yn deg â rhai o'r datblygwyr, maent wedi gwario cryn dipyn o arian ar adfer rhai o'r adeiladau, ond mae'n rhaid dweud nad yw pob un ohonynt yn y sefyllfa honno. Rydym yn parhau i weithio gyda'r datblygwyr i geisio rhoi cymaint o bwysau ag y gallwn arnynt i wneud hynny. Rydym wedi gofyn am gyngor ynghylch pa ddulliau eraill y gallwn eu defnyddio ar ffurf arian, cyllid ac ati gan Lywodraeth Cymru i geisio dod â hwy at y bwrdd.