Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Mae tai cymdeithasol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i mi a'r Llywodraeth hon ar gyfer Cymru gyfan. Mae hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd ar gyfer rhent cymdeithasol dros dymor y Llywodraeth hon. Dyrannwyd £50.4 miliwn o'r grant tai cymdeithasol i ranbarth Gogledd Cymru ar gyfer 2021-22, i adeiladu cartrefi cymdeithasol mawr eu hangen.