Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Weinidog, fel y gwyddoch, rwyf wedi mynegi fy marn yn glir yn y Siambr hon wrth drafod Cyfoeth Naturiol Cymru a digwyddiadau llifogydd 2020. Wedi dweud hynny, hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am y cymorth a roddwyd i bob awdurdod rheoli perygl llifogydd ers y llifogydd i wella mesurau i amddiffyn rhag llifogydd ac atal llifogydd ar draws Rhondda, trwsio cwlferi a systemau draenio ym Mhentre, Treorci, Ynys-hir a Blaenllechau, a chynlluniau ar gyfer wal lifogydd ym Mritannia. Rydym wedi dweud yn y Siambr ac mewn cyfarfodydd allanol fod angen gweithgor i ddysgu gwersi mis Chwefror 2020. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r awdurdodau rheoli perygl llifogydd ynglŷn â'r gweithgor?