Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Diolch, Llywydd. Hoffwn i ddechrau efo materion yn codi o'ch datganiad chi ddoe—Cymraeg 2050. Mae sefyllfa lle mae'ch Llywodraeth chi yn methu â chyrraedd targedau ynglŷn â phlant saith oed sy'n dysgu drwy'r Gymraeg yn hollol annerbyniol. Felly, dwi yn edrych ymlaen at glywed mwy am eich cynlluniau chi i gyflwyno Deddf addysg Gymraeg. Mae gwir angen hyn, a gwir angen targedau statudol clir mae'n rhaid cadw atyn nhw. Yn y cyfamser, wrth gwrs, mae angen gweithredu ar frys i gynyddu'r gweithlu sy'n gallu dysgu drwy'r Gymraeg. Yn ôl eich adroddiad chi fel Llywodraeth, mae prinder o dros 300 o athrawon cynradd, a thros 500 o athrawon uwchradd cyfrwng Cymraeg. Mae'r sefyllfa'n un pryderus tu hwnt. Sut, felly, ydych chi am fynd ati i gefnogi, cryfhau a chynyddu'r gweithlu dysgu cyfrwng Cymraeg?