Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Fel y nodwyd gennym yn y rhaglen lywodraethu newydd, rydym wedi ymrwymo i ddileu anghydraddoldeb ar bob lefel o gymdeithas, sy'n cynnwys gweithredu polisïau mewn addysg a fydd yn rhoi'r cyfleoedd bywyd gorau i bawb. Rydym yn cydnabod bod angen camau gweithredu radical, meddwl yn arloesol a chydgysylltu a chydweithredu cryf er mwyn cyflawni hyn.