Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Mae'r consortia rhanbarthol yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gefnogi ysgolion i wella a chyflwyno'r cwricwlwm newydd, gan gynnwys drwy ddysgu proffesiynol ac ymgysylltu uniongyrchol. Rwy'n cyfarfod â'r consortia yr wythnos hon i drafod y ffordd orau iddynt barhau i gefnogi ysgolion wrth inni adnewyddu a diwygio addysg yng Nghymru.