Chwaraeon ac Addysg Gorfforol

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 14 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of James Evans James Evans Conservative 3:03, 14 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn y datganiad busnes ddoe, crybwyllais y ffaith ein bod yn gweld cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy'n cael cymorth iechyd meddwl ledled Cymru. Fel y gwyddoch chi a minnau, mae chwaraeon yn chwarae rhan allweddol iawn yn helpu iechyd corfforol a meddyliol pobl ifanc. Mae'n sefydlu disgyblaeth, yn dysgu gwaith tîm ac yn cynorthwyo pobl i fyw bywydau egnïol ac iach. Felly, Weinidog, a wnewch chi ystyried sicrhau bod mwy o arian ar gael yn y dyfodol ar gyfer chwaraeon mewn ysgolion a blaenoriaethu ymdrechion i ganolbwyntio ar ganiatáu i chwaraeon chwarae rhan fwy yn y cwricwlwm, a gweithio gyda sefydliadau allanol fel y gallant ddarparu mwy o chwaraeon mewn ysgolion?