Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Prynhawn da, Weinidog. Un o effeithiau mwyaf dinistriol y pandemig—ar wahân i'r bywydau a gollwyd mor drasig wrth gwrs—yw'r niwed a wnaed i ddatblygiad addysgol ac emosiynol ein plant ysgol. Yn fy etholaeth i, Dyffryn Clwyd, rydym wedi gweld ysgolion cyfan yn cau o ganlyniad i ambell achos o COVID-19, yn aml ar adegau o ganlyniad i drosglwyddiad asymptomatig a nodwyd drwy brofi grwpiau blwyddyn gyfan a anfonwyd adref i hunanynysu. Mae hyn nid yn unig yn tarfu ar addysg y plentyn, mae hefyd yn ddiangen. Rwy'n falch eich bod wedi newid y canllawiau o'r diwedd, ond Weinidog, sut y byddwch yn sicrhau bod plant yn Nyffryn Clwyd yn dal i fyny gyda'r holl addysg y maent wedi'i cholli o ganlyniad i bolisïau blaenorol Llywodraeth Cymru? Diolch yn fawr iawn.