3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Cynllun Rheoli’r Coronafeirws

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 14 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 3:38, 14 Gorffennaf 2021

Llywydd, diolch yn fawr i Rhun ap Iorwerth, a diolch am beth ddywedodd e, ac am y gefnogaeth am beth dwi wedi ei ddweud y prynhawn yma. A dwi'n cydnabod y ffaith, trwy'r pandemig i gyd, mae Plaid Cymru wedi bod yn gefnogol o sut rŷn ni'n mynd i fynd ati yma yng Nghymru. So, diolch yn fawr unwaith eto y prynhawn yma am hynny.