Part of the debate – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
O ran digwyddiadau awyr agored, mae cyfyngiadau ar nifer y bobl sy'n mynychu bellach wedi'u codi, ac mae cadw pellter cymdeithasol bellach yn rhywbeth y byddai'n rhaid i drefnydd digwyddiad ei ystyried wrth gynnal asesiad risg ac wrth roi mesurau lliniaru ar waith yn erbyn risgiau'r coronafeirws. Felly, nid yw'n golygu rhyddid llwyr i gynnal unrhyw ddigwyddiad yn awr fel pe na bai'r coronafeirws yn bodoli, Lywydd. Mae'n golygu y byddai angen i sioe Martletwy, sioe rwyf wedi ymweld â hi ac wedi'i mwynhau fy hun yn y gorffennol, fod yn destun asesiad risg gan ei threfnwyr. Yr hyn nad oes rhaid iddynt ei ystyried yw terfyn sefydlog wedi'i bennu gan y Llywodraeth. Bydd yn rhaid iddynt hwy eu hunain ystyried beth sy'n ddiogel yn y cyd-destun y maent ynddo. Bydd hynny'n wahanol i bawb, fel y gwyddoch, ac yn dibynnu ar faint lleoliad, y mynediad i'r lleoliad, natur y digwyddiad ei hun ac yn y blaen.
Ar leoliadau ysbyty, cyhoeddwyd canllawiau diwygiedig gennym ar ymweld ychydig wythnosau'n ôl. Ei nod yw annog ysbytai i feddwl yn ofalus am ymestyn yr ystod o bobl sy'n gallu ymweld, ond mae'n parhau i fod yn benderfyniad clinigol yn y pen draw. A phan fydd ffigurau'r coronafeirws yn codi yn y gymuned mor gyflym ag y maent yn ei wneud, gwyddom y bydd lleoliadau caeëdig, fel ysbytai, yn arbennig o agored i niwed. Felly, er fy mod yn gwybod bod y rhain yn benderfyniadau eithriadol o anodd, ac yn effeithio'n fawr iawn ar y teuluoedd dan sylw, rwy'n dal i gredu ei bod yn iawn inni adael y penderfyniadau hynny yn nwylo'r bobl sy'n gorfod bod yn gyfrifol am ddiogelwch ehangach cleifion yn y lleoliad hwnnw, a dibynnu ar eu doethineb a'u crebwyll.