Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 14 Medi 2021.
Prif Weinidog, dros y blynyddoedd diwethaf, mae fy etholaeth i yng Nghwm Cynon wedi elwa yn aruthrol ar fuddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn tai cymdeithasol, wrth i lawer o hen adeiladau segur gael eu troi yn gywir yn llety o ansawdd uchel, yn ogystal ag adeiladau newydd sbon. Un mater sy'n codi'n aml, fodd bynnag, yw'r galw am eiddo wedi ei addasu ac y gellir ei addasu. Mae'n aml yn anodd i'r awdurdod lleol ragweld yn ddigonol y galw am eiddo o'r fath a bwydo'r wybodaeth drwodd fel bod digon o eiddo ar gael pan fo'i angen. Beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, Prif Weinidog, i sicrhau bod pawb sydd angen tai cymdeithasol wedi eu haddasu yn gallu cael gafael arnyn nhw, a'u cael yn brydlon?