Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 14 Medi 2021.
Diolchaf i'r Aelod am hynny, Llywydd. Mae gwasanaethau meddygon teulu ledled Cymru yn wynebu pwysau enfawr wrth ymdrin â'r argyfwng iechyd cyhoeddus parhaus ochr yn ochr â lefelau uchel o alw ymhlith cleifion ar gyfer cyflyrau nad ydyn nhw'n yn ymwneud â COVID. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £18.4 miliwn dros y ddwy flynedd ddiwethaf i gynorthwyo'r proffesiwn wrth ymateb i'r heriau mynediad y mae'n eu hwynebu.