1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Medi 2021.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynaliadwyedd yn yr economi wledig? OQ56799
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynaliadwyedd yn yr economi wledig drwy'r cynllun taliad sylfaenol, y rhaglen datblygu gwledig a llawer o ffynonellau eraill. Agorodd ceisiadau i'r rownd ddiweddaraf o gyllid grant busnes fferm, er enghraifft, ar 1 Medi.
Diolch. Yn gynharach y mis hwn, ymwelais â'r perchnogion fferm Einion ac Elliw Jones ar fferm Mynydd Mostyn yn Nhrelogan ger Treffynnon. Mae eu busnes peiriannau gwerthu llaeth arloesol a hynod boblogaidd a ysgogwyd gan COVID ac sy'n cyflenwi llaeth ffres ac ysgytlaeth o dan fygythiad ar ôl i swyddogion cynllunio sir y Fflint ddweud nad oedd y safle yn gyfreithlon. Yn unol â 'Pholisi Cynllunio Cymru' 11 Llywodraeth Cymru—PCC 11—roedd yn amlwg bod y busnes fferm hwn yn cynrychioli arallgyfeirio ar raddfa fach yn rhan o fusnes y fferm. Yn groes i adroddiad y swyddog cynllunio, yr oedd yn amlwg o fy ymweliad i fod darparu'r peiriannau gwerthu llaeth yn ddefnydd ategol i'r brif fferm laeth, nid datblygiad cwbl ar wahân i'r fferm, a bod y nwyddau sy'n cael eu gwerthu yn cael eu cynhyrchu'n bennaf ar y fferm, gyda gwerthiant cynnyrch lleol a rhanbarthol ychwanegol sydd i'w groesawu. Yn hytrach na chael effaith niweidiol ar unrhyw fusnes lleol arall, mae'r fenter hon yn cael ei chroesawu a'i chefnogi gan y gymuned leol, ac mae deiseb eisoes wedi denu dros 9,000 o lofnodion, sy'n dystiolaeth i anghysondeb ymddangosiadol â datganiad PCC 11 y dylai awdurdodau cynllunio gydweithio â'r gymuned leol.
A nodwyd yn adroddiad y swyddog cynllunio nad oedd modd cyrraedd y safle heblaw mewn cerbyd; rwy'n dyst bod y gwrthwyneb yn wir, bod y safle yn hygyrch i gerddwyr a beicwyr yn arbennig, ac amrywiaeth eang o ffynonellau neu ddulliau teithio. Sut felly wnewch chi sicrhau bod awdurdodau cynllunio lleol yn deall ac yn cydymffurfio â pholisi Llywodraeth Cymru a'r dystiolaeth eglur a fyddai ar gael iddyn nhw ar ymweliad safle wrth ystyried arallgyfeirio a chynaliadwyedd yn yr economi wledig?
Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Rwy'n ymwybodol o'r achos y mae'n cyfeirio ato, a bydd y pwyntiau y mae wedi eu gwneud y prynhawn yma bellach ar y cofnod yn briodol. Mae'n ddrwg gen i y bydd yn rhaid i mi ei siomi drwy beidio â gallu dweud dim pellach, ond mae fy swyddogion yn fy nghynghori yn eglur iawn gan fod yr awdurdod lleol wedi gwneud ei benderfyniad, bod gan yr ymgeisydd, y ffermwr yn yr achos hwn, hawl i apelio i Weinidogion Cymru. Ac felly oherwydd y gallai unrhyw beth y gallwn i ei ddweud ragfarnu'r penderfyniad hwnnw, ni ddylwn i wneud dim mwy na chydnabod y pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu gwneud, ac rwy'n siŵr y byddan nhw'n cael eu hystyried pe bai'r ymgeisydd yn dewis apelio.