Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 14 Medi 2021.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a neis gweld pawb yn ôl hefyd. Prif Weinidog, yn ddiweddar, mae fforwm cleifion y Drenewydd wedi codi pryderon ynghylch pwysau enfawr ar wasanaethau meddyg teulu. Tra bod y coronafeirws wedi gwaethygu'r problemau yn y Drenewydd a thu hwnt hefyd, mae sawl practis yn y rhanbarth wedi gweld pwysau enfawr ers blynyddoedd.