Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 14 Medi 2021.
Diolch i Jane Dodds am y cwestiwn. Wrth gwrs, dwi'n cydnabod, fel dywedais i yn yr ateb diweddaraf, y pwyslais sydd wedi bod ar bobl sy'n gweithio yn y maes ym Mhowys, a dwi'n cydnabod hefyd y gwaith mae Russell George wedi'i wneud. Dwi wedi ateb nifer o gwestiynau ar lawr y Cynulliad am ddatblygiadau yn y Drenewydd.