Part of the debate – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 14 Medi 2021.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i chi am y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am yr hyn sy'n parhau i fod yn sefyllfa iechyd cyhoeddus sy'n symud yn gyflym ac sy'n esblygu.
Nawr, mae llawer wedi newid ers y Senedd ddiwethaf, ers i ni gyfarfod ddiwethaf i drafod y coronafeirws yng Nghymru cyn toriad yr haf. Mae Cymru wedi bod ar lefel rhybudd 0 ers saith wythnos bellach ac, fel y gŵyr yr Aelodau, mae hyn yn golygu bod pob busnes yn gallu agor a bod gennym lai o gyfyngiadau cyfreithiol ar waith nag ar unrhyw adeg ers i'r pandemig ddechrau 18 mis yn ôl. Ond mae rhai amddiffyniadau pwysig ar waith o hyd i helpu i'n cadw ni i gyd yn ddiogel, gan gynnwys y gofyniad i bob busnes a chyflogwr gynnal asesiad risg.
Mae'r rhan fwyaf ohonom wedi mwynhau'r haf hwn, yn cwrdd â ffrindiau a theulu ac yn mynd ar wyliau yn ein gwlad hardd. Mae'r coronafeirws, wrth gwrs, yn feirws sy'n ffynnu ar gyswllt dynol. Ac wrth i ni ymgynnull mewn niferoedd mwy dros yr haf, mae achosion o'r feirws wedi cynyddu yn ôl y disgwyl. Gallwn weld cynnydd pellach wrth i'r tymor newydd ddechrau ar gyfer ysgolion, colegau a phrifysgolion.
Mae Cymru ar lefel rhybudd 0, ond mae'n amlwg nad yw'r pandemig drosodd eto. Byddai ein modelu'n awgrymu ein bod yn nesáu at uchafbwynt trydedd don y pandemig, wedi'i ysgogi gan yr amrywiolyn delta. Erbyn hyn mae gennym gyfraddau uchel iawn o'r coronafeirws ym mhob un o'n cymunedau. Mae ein senarios modelu, sydd wedi'u cyfrifo'n ofalus gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Abertawe, yn rhagweld bod y rhain yn debygol o waethygu dros yr wythnosau nesaf wrth i'r don ddechrau cyrraedd uchafbwynt. Os bydd y feirws yn parhau i ledaenu ar ei gyfradd bresennol, gallwn ddisgwyl gweld tua 3,200 o achosion yn cael eu cadarnhau bob dydd tua diwedd y mis.
Hyd yn hyn, mae'r cynnydd hwn wedi bod dan reolaeth oherwydd ein rhaglen frechu anhygoel, sydd wedi helpu i wanhau'r cysylltiad rhwng haint a salwch difrifol. Ond gyda lledaeniad cyflym y coronafeirws yn ein cymunedau, mae pwysau'r pandemig ar y GIG yn cynyddu unwaith eto, ac mae adroddiadau cynyddol bod hyd yn oed pobl sydd wedi cael eu brechu ddwywaith yn cael eu derbyn i'r ysbyty gyda COVID-19.
Ar hyn o bryd, mae tua 40 o dderbyniadau i'r ysbyty COVID-19 y diwrnod. Mae ychydig dros 480 o achosion wedi'u cadarnhau mewn ysbytai ledled Cymru—y nifer uchaf ers mis Mawrth. Nawr, mae ein modelu'n awgrymu y gallai fod 100 o dderbyniadau newydd i'r ysbyty oherwydd COVID-19 bob dydd wrth i'r don delta gyrraedd uchafbwynt. Mae'r GIG eisoes dan bwysau dwys gan ei fod yn ymateb i ofynion gofal iechyd brys, ac yn darparu mwy o lawdriniaethau a thriniaethau wedi'u cynllunio. Ac mae ein gwasanaethau iechyd a gofal eisoes yn profi pwysau staffio drwy gyfuniad o wyliau blynyddol, staff sy'n gweithio mewn meysydd eraill, salwch ac ynysu. Mae ein staff iechyd a gofal wedi blino ar ôl gweithio mor galed ac mor ddwys dros y 18 mis diwethaf.
Nawr, yr wythnos hon mae dau ddatblygiad sylweddol yn gysylltiedig â brechu. Heddiw, mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi cyhoeddi ei gyngor terfynol ar gyfer rhaglen atgyfnerthu'r hydref, a byddwn yn derbyn y cyngor hwnnw maen nhw wedi'i roi. Mae hyn yn bwysig yng ngoleuni'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg am effeithiolrwydd y brechlynnau sy'n gwanhau. Byddwn yn dechrau anfon gwahoddiadau o 20 Medi ymlaen, ac mae ein GIG wedi gweithio'n galed i sicrhau ei fod yn barod i ddechrau'r rhaglen a gwahodd y rhai a gafodd eu brechiadau gynharaf.
Ar yr un pryd, mae pedwar prif swyddog meddygol y DU wedi bod yn trafod ac yn cymryd tystiolaeth arbenigol ynghylch p’un a ddylai'r brechlyn fod ar gael i bobl ifanc 12 i 15 mlwydd oed. Maen nhw bellach wedi argymell, oherwydd y manteision tebygol o leihau aflonyddwch addysgol a'r effaith mae hyn yn ei chael ar les ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc, fod Gweinidogion yn ymestyn y cynnig o frechu cyffredinol i'r plant hyn. Bydd hyn yn golygu cynnig dos cyntaf o frechlyn COVID-19 Pfizer BioNTech i bob plentyn a pherson ifanc rhwng 12 a 15 mlwydd oed nad ydynt eisoes wedi'u cynnwys yng nghyngor presennol y JCVI.
Nawr, wrth ystyried yr holl gyngor, rwy'n cytuno â'r prif swyddogion meddygol fod budd o ran cynnig y brechlyn i bobl ifanc 12 i 15 mlwydd oed, a byddwn yn dechrau cynnig apwyntiadau brechu o'r wythnos nesaf gyda'r nod o frechu pawb sy'n dymuno dod ymlaen erbyn hanner tymor mis Hydref.