Part of the debate – Senedd Cymru am 3:54 pm ar 14 Medi 2021.
Llywydd, os yw ein gwaith modelu ni'n gywir—ac mae wedi bod hyd yma—bydd nifer yr achosion o COVID-19 a'r rhai a fydd yn cael eu derbyn i'r ysbyty ar ei anterth yr union adeg y bydd cyfnod y gaeaf yn dechrau ar gyfer y gwasanaeth iechyd. Bydd hwn yn rhoi rhagor o bwysau ar ein systemau iechyd a gofal, system sydd, fel y gwyddoch, o dan bwysau yn barod. Mewn rhai rhannau o'r Deyrnas Unedig, mae llawdriniaethau sydd wedi'u cynllunio o flaen llaw wedi cael eu gohirio'n barod er mwyn galluogi'r ymddiriedolaethau gwasanaeth iechyd i ymdopi â phwysau'r pandemig a'r argyfyngau eraill rŷm ni'n wynebu.
Pan fydd lefelau heintiau COVID yn uchel, mae'n bosibl y bydd nifer y bobl sy'n dioddef o COVID hir yn cynyddu. Dŷn ni ddim yn gwybod faint yn union o bobl sydd â COVID hir ac mae'r sylfaen dystiolaeth yn dal i ddatblygu. Mae lefelau uchel o heintiau hefyd yn cynyddu'r risg y bydd amrywiolyn newydd yn dod i'r amlwg. Rŷn ni i gyd yn cofio'r boen a'r dioddefaint a achosodd yr amrywiolyn alffa, neu Caint, yn ystod y gaeaf, ac rŷm ni yn awr yn delio â'r amrywiolyn delta.
Wrth i ni edrych ymlaen tuag at y gaeaf, mae heintiau anadlol eraill fel RSV a'r ffliw tymhorol hefyd yn fygythiad. Os ydyn ni am lwyddo i reoli'r coronafeirws a heintiau anadlol eraill yr hydref a'r gaeaf hwn, rhaid i ni barhau i ganolbwyntio ar gynyddu'r niferoedd sy'n cael eu brechu rhag COVID, yn arbennig ymhlith y grwpiau a'r cymunedau hynny lle mae'r niferoedd sydd wedi cael y brechlyn yn gymharol isel.
Ar hyn o bryd, mae tua 373,000 o bobl sydd heb eu brechu yng Nghymru a allai fod wedi cael y brechlyn, ac mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw o dan 50 oed. Rŷm ni'n poeni yn arbennig am y nifer isel o fenywod beichiog sydd wedi cael eu brechu. Yn anffodus, dros y tair wythnos diwethaf, mae cynnydd wedi bod yn nifer y menywod beichiog sydd heb eu brechu sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty. Rhywbeth arall sydd yr un mor bwysig hefyd yw gwneud yn siŵr bod pawb sy'n gymwys yn cael y pigiad atgyfnerthu, neu'r booster. Byddwn ni hefyd yn gweithio'n galed i annog pobl i gael y brechlyn rhag y ffliw, er mwyn adeiladu ar y nifer a gafodd y brechlyn y llynedd—y nifer mwyaf erioed.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, hoffwn i orffen y datganiad hwn drwy atgoffa pawb am y pethau y gallwn ni eu gwneud i ddiogelu ein hunain a'r rheini sy'n annwyl i ni. Os byddwch chi'n teimlo'n sâl a bod gennych chi symptomau COVID, rhaid i chi aros gartref a chael prawf PCR. Os bydd canlyniad y prawf yn bositif, rhaid i chi hunanynysu. Bydd hyn yn helpu i atal lledaeniad y feirws ddychrynllyd yma. Meddyliwch am bwy ŷch chi'n mynd i gyfarfod â nhw, a phryd. Os allwn ni i gyd dorri i lawr ar y nifer o bobl rŷm ni'n cwrdd â nhw wyneb yn wyneb, a'r amser byddwn ni'n ei dreulio gyda nhw, bydd e'n help i ni gadw'n ddiogel. Pan fydd yn bosibl, dylech chi gwrdd â phobl yn yr awyr agored, ond os byddwch chi o dan do, agorwch y drysau a'r ffenestri. Gwisgwch orchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus lle mae llawer o bobl dan do, a golchwch eich dwylo yn rheolaidd. A gweithiwch gartref o hyd pan allwch chi wneud hynny. Rŷm ni wedi gweithio gyda'n gilydd o'r blaen, ac rŷm ni wedi newid cwrs y pandemig hwn. Gallwn ni i gyd wneud hynny eto nawr a chadw Cymru'n ddiogel gyda'n gilydd. Diolch.