Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 14 Medi 2021.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ie, mae yna bethau sydd heb gael eu setlo eto—vaccine passports yn un o'r rheini. Dwi'n meddwl bod Llywodraeth Cymru yn iawn i gadw'r opsiwn ar agor. Dwi'n gweld bod Sajid Javid yn San Steffan wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Geidwadol Prydain yn cadw hwn fel opsiwn ar gyfer plan B ar gyfer y gaeaf. Felly, gwahaniaeth barn rhwng Ceidwadwyr Cymru a Cheidwadwyr yn Llywodraeth Prydain yn hynny o beth.
Ond, os gwnaf i droi at y pethau sydd wedi cael eu cyhoeddi heddiw a dros y dyddiau diwethaf, dwi'n croesawu'r cyhoeddiad ynglŷn â'r boosters. Dwi'n croesawu'r penderfyniad hefyd o ran brechu, a chynnig y brechiad, i blant rhwng 12 a 15 oed. Dwi'n nodi, yn arbennig, groeso cynnes iawn y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant i hwn fel cam i warchod lles ehangach plant a phobl ifanc. A gaf i ofyn y cwestiwn yma ar hynny: pa adnoddau a chefnogaeth fydd yn cael eu rhoi i rieni a theuluoedd a phlant er mwyn eu galluogi nhw i ddod i benderfyniad ynglŷn â'r brechiad?
Mi fydd hyn yn cymryd amser rŵan, wrth gwrs. Dwi'n edrych ymlaen at weld rhagor o fanylion ynglŷn â'r broses frechu i'r grŵp yma. Ond rydym ni, wrth gwrs, yn gwybod yn y cyfamser fod nifer yr achosion yn dal i gynyddu. Mae yna ddwy sir heddiw wedi rhoi ysgolion yn y categori risg uchaf—Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot—efo nifer o gyfyngiadau yn disgwyl i gael eu cyflwyno yn yr ysgolion yn y siroedd hynny. Ydych chi'n disgwyl i hyn ddod yn gam cyffredin i'w gymryd ym mhob rhan o Gymru?
A hefyd, tra rydym ni’n dal i chwilio am warchodaeth frys i ysgolion, dwi’n falch bod y Llywodraeth wedi gwneud tro pedol ar y cyhoeddiad ar beiriannau osôn. Mi wnes i godi pryderon, a llawer iawn o bobl eraill, ynglŷn â’r dewis rhyfedd yma o’r dechnoleg honno. Dwi yn gofyn yn daer i’r Gweinidog edrych ar dechnolegau eraill mae gennym ni fwy o brofiad o’u defnyddio nhw. Dwi wedi sôn wrth y Gweinidog o’r blaen ynglŷn â golau uwchfioled. Dwi wedi bod yn darllen ac yn cymryd diddordeb mawr mewn peiriannau ffiltro awyr sy’n cael eu defnyddio’n eang iawn erbyn hyn, yn cynnwys yn Efrog Newydd lle maen nhw’n cael eu defnyddio’n eang. Ydy’r Gweinidog yn barod i edrych ar hynny ac yn barod i wrando ar a darllen gwybodaeth y gallwn i ei rhannu efo’r Gweinidog ynglŷn â darparwyr posibl peiriannau o’r math yna?
Cwpl o faterion eraill. Dwi’n croesawu’r cyfeiriad at COVID hir ac yn dal i wthio’r Llywodraeth i wneud yn siŵr bod Cymru’n bod yn flaengar wrth drio dod i ddeall mwy am y cyflwr yma a’r camau sydd angen eu cymryd i warchod pobl sydd wedi dioddef yn hir iawn, rhai ohonyn nhw, ac yn ddwys iawn, llawer ohonyn nhw, yn sgil contractio’r feirws yma.
Ond dwi eisiau gorffen drwy edrych ar y pwysau ehangach ar yr NHS. Mae fy niolch i a phawb mor fawr i bawb sydd yn gweithio o fewn gwasanaethau iechyd a gofal. Mi glywsom ni gyfeiriad at y gwasanaethau ambiwlans sydd o dan bwysau rhyfeddol ar hyn o bryd, ond ar draws yr holl wasanaethau mae ein diolch ni yn fawr, ac mae yna gwestiynau mawr ynglŷn â chamau sydd angen eu cymryd ar frys er mwyn gwarchod ein gwasanaethau ni.
Un peth fyddwn i’n licio ei glywed ydy ymrwymiad i roi llawer gwell data i weld beth sy’n digwydd yn union mewn ysbytai, yn benodol y berthynas rhwng faint o bobl sydd mewn ysbytai, mewn adrannau gofal dwys, sy’n colli eu bywydau hyd yn oed, sydd wedi cael y brechiad ac sydd ddim. Dwi’n meddwl y byddai hynny’n ddefnyddiol i ni allu cael darlun gwell a mwy deallus o’r hyn sy’n digwydd o ran y feirws ar hyn o bryd.
Ac o ran y pwysau ar ein hysbytai ni, dwi’n deall bod Ysbyty Abergele wedi penderfynu cau oherwydd pwysau yn yr ysbytai cyffredinol. O bosib gall y Gweinidog gadarnhau hynny, a’r ffaith bod triniaethau elective orthopedig yn y fan honno eto yn cael eu gohirio. Allwn ni ddim fforddio colli mwy o amser trin pobl non-COVID achos mae yna argyfwng gennym ni yn barod. Dwi’n apelio yn y fan hyn am gynllun sy’n gwarchod yr elfen yna o’n darpariaeth iechyd ni, achos wrth i ni wynebu’r gaeaf yma, lle rydym ni’n cael problem bob amser, mae yna beryg rŵan bod y problemau yn dwysáu fwy fyth, a dyna pam ei bod hi’n hen bryd sicrhau bod y gweithgarwch non-COVID yna yn gallu parhau heb fwy o rwystr na sydd raid.