Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 14 Medi 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am y diweddariad a gafwyd gan y Gweinidog heddiw. Croesawaf y gydnabyddiaeth y bu gwaith dros yr haf gyda phartneriaid allweddol i fireinio cynigion a geir o fewn drafft cynharach o'r Bil. Mae llawer o fewn y drafft rydyn ni'n ei groesawu yn gyffredinol, ac mae Plaid Cymru wedi hyrwyddo caffael lleol ers blynyddoedd llawer fel ffordd o gefnogi busnesau lleol ac ysgogi twf economaidd.