Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 15 Medi 2021.
Rwy'n ymwybodol o'r llythyr y cyfeiriwch ato a'r pryderon ynghylch mater Rhondda yn benodol, a dyna pam rwy'n amharod i fanylu gormod wrth ymateb i'r mater penodol hwnnw y prynhawn yma. Ond rwyf am ymdrechu i gael trafodaethau pellach gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar y pwyntiau a godwyd gennych y prynhawn yma a'r pryderon y gwn fod CLlLC wedi'u codi'n uniongyrchol gyda hi.