Mercher, 15 Medi 2021
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Cyn inni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno...
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Samuel Kurtz.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am awdurdodau lleol yn defnyddio hysbysiadau cosb benodedig? OQ56836
Diolch yn fawr iawn. Mae'n neis i fod yn ôl a gweld pobl. 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyraniadau'r gyllideb i'r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas...
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands.
3. Pa ystyriaeth y gwnaiff Llywodraeth Cymru ei rhoi i'r effaith ar Gymru o gyllid ychwanegol posibl y GIG a gofal cymdeithasol yn Lloegr wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio iechyd a gwasanaethau...
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gyllideb a ddyrennir i gynllunio datblygu strategol ac economaidd yn ne-ddwyrain Cymru? OQ56829
5. Pa asesiad o'r goblygiadau treth i Gymru y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o bolisi porthladdoedd rhydd Llywodraeth y DU? OQ56832
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar effaith y dreth trafodion tir? OQ56810
7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi treth incwm Llywodraeth Cymru? OQ56813
8. A wnaiff y Gweinidog egluro pwrpas yr ymgynghoriad cyfredol ar drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar? OQ56822
Mae'r cwestiynau nesaf, felly, i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, a dwi'n galw'n gyntaf am gwestiwn 1, Vikki Howells.
1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i wella lles anifeiliaid yng Nghymru yn ystod tymor y Senedd hon? OQ56805
2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith amgylcheddol unedau dofednod dwys yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ56831
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i reoleiddio bridio cŵn yng Nghymru? OQ56814
4. Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd am drwsio ffyrdd yng ngogledd Cymru yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd eleni? OQ56817
5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith dwyn anifeiliaid anwes ar les anifeiliaid yng Nghymru? OQ56815
6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi am gyfrifoldeb cyfredol Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu parc busnes Bryn Cegin, Bangor? OQ56823
7. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer ffermio âr a da byw cymysg ar raddfa fach a chanolig sy'n cael eu rhedeg gan deuluoedd yng nghymoedd de Cymru? OQ56801
8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ffermwyr yn Sir Benfro? OQ56808
Yr eitem nesaf fyddai'r cwestiynau amserol, ond does yna ddim cwestiynau amserol.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad 90 eiliad cyntaf y prynhawn yma gan Samuel Kurtz.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2, 4 a 5 yn enw Darren Millar, a gwelliant 3 yn enw Lesley Griffiths. Os derbynnir gwelliant 3, caiff gwelliannau 4 a 5 eu dad-ddethol.
Rydym ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, felly, ac mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar fynediad at ddiffibrilwyr. Rwy'n galw am bleidlais, felly, ar y cynnig a...
Ond mae yna un eitem eto, wrth gwrs, sef y ddadl fer, ac mae'r ddadl fer heddiw yn cael ei chyflwyno gan Paul Davies. Paul Davies.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiwygiadau i ffiniau llywodraeth leol?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi arloesedd yn y diwydiant ffermio yng Ngorllewin De Cymru?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia