Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 15 Medi 2021.
Gwn fod lles a chyfleoedd bywyd ein plant a'n pobl ifanc, yn enwedig y rheini mewn gofal, yn flaenoriaeth a rennir gan y Gweinidogion a minnau. Dros y degawd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y plant sy'n derbyn gofal gan awdurdodau lleol, a gwn fod gweithwyr cymorth ac eraill yn gweithio'n hynod o galed i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant a phobl ifanc mewn gofal. Mae'r cynnydd hwn, fodd bynnag, wedi arwain at bwysau ariannol sylweddol ar awdurdodau lleol, a gwariant ar blant a theuluoedd, ar gyfartaledd, yw'r maes gwariant mwyaf ond un i gynghorau yng Nghymru. Mae llawer o awdurdodau lleol yn wynebu heriau gyda recriwtio a chost gynyddol gofal preswyl. Felly, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog, gyda'r disgwyliad, yn anffodus, y bydd angen cymorth gan eu cynghorau lleol ar fwy o blant a theuluoedd yn y flwyddyn i ddod, pa flaenoriaeth a roddir i'r maes gwariant hwn yn y gyllideb sydd i ddod? Diolch yn fawr iawn.