Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 15 Medi 2021.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rŷn ni'n gwybod, wrth gwrs, fod awdurdodau lleol wedi dioddef toriadau cynyddol dros y degawd diwethaf—toriadau o tua 22 y cant mewn termau real ers 2010. Nawr, rŷn ni hefyd yn clywed yn gyson beth yw goblygiadau hynny o safbwynt gwasanaethau, ac yn hynny o beth, wrth gwrs, yn fwyaf diweddar o safbwynt gofal cymdeithasol. Nawr, rwy'n siŵr y byddai pawb ar draws y Siambr yma, a'r sbectrwm gwleidyddol, yn cytuno nad oes yna ddigon o bres yn y system i gwrdd â'r angen, ac i gwrdd â'r angen hwnnw ar lefel ansawdd sy'n angenrheidiol.
Mi welon ni ymateb Llywodraeth San Steffan, wrth gwrs, yr wythnos diwethaf. Eu dewis nhw yw cynyddu yswiriant gwladol, ac mi fydd hynny, wrth gwrs, yn effeithio arnom ni yng Nghymru. Un o'r sgil-effeithiau yn hynny o beth yw y bydd disgwyl i gyflogwyr yng Nghymru dalu siâr ychwanegol o'r yswiriant gwladol hwnnw. Ac mi glywais i mewn cyfarfod amser cinio heddiw gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mai'r pris ar hynny i awdurdodau lleol yng Nghymru fydd £50 miliwn yn ychwanegol y mae'n nhw'n gorfod ei ffeindio i gwrdd â'r galw yna. Nawr, mewn sefyllfa lle mae'r sector cyhoeddus eisoes yn gwegian yn ariannol, bydden i'n lico gofyn i chi sut ydych chi'n dehongli beth fyddai goblygiadau hynny i awdurdodau lleol, ac, yn fwy penodol, pa gymorth ychwanegol fyddwch chi fel Llywodraeth yn ei ddarparu i awdurdodau lleol er mwyn cwrdd â'r gofyniad ychwanegol hwnnw?