Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 15 Medi 2021.
Ydym, rydym wedi bod yn galw am setliadau aml-flwyddyn hefyd, ochr yn ochr â llywodraeth leol yng Nghymru, ers blynyddoedd lawer. Credaf mai 2017 oedd y tro diwethaf inni lwyddo i gyhoeddi cyllideb am fwy nag un flwyddyn ariannol. Rydym yn deall y bydd yr un nesaf am dair blynedd, ac yn sicr, y bwriad fyddai trosglwyddo'r sicrwydd a gawn drwy hynny i wasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru, er mwyn caniatáu iddynt gael cyfle i gynllunio ymlaen llaw gyda mwy o hyder.