Cyllid ychwanegol yn Lloegr

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 15 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 1:51, 15 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Mae cyllid i faes iechyd a gofal cymdeithasol bob amser wedi bod yn flaenoriaeth yng Nghymru, ac amlygir hynny gan y £550 miliwn ychwanegol a ddarparwyd ym mis Awst i gefnogi'r adferiad. Rydym yn cydnabod y cyllid ychwanegol sy'n deillio o benderfyniadau Llywodraeth y DU, ond canlyniad yr adolygiad cynhwysfawr o wariant fydd y sail ar gyfer ein dyraniadau cyllidebol.