Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 15 Medi 2021.
Iawn, a hoffwn roi gwybod i'r Aelod nad yw Cymru'n cael mwy na'i chyfran deg; ar ddiwrnod da, rydym yn cael ein cyfran deg. Mae'n ddiddorol iawn fod yr Aelod, yn ôl pob golwg, yn gwrthwynebu'r cyllid y mae Cymru'n ei gael o ganlyniad i'n sefyllfa gymdeithasol ac economaidd unigryw, a'r trafodaethau a gafodd Prif Weinidog Cymru yn flaenorol i sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran deg o symiau canlyniadol Barnett. Ond os ydych chi'n credu bod Cymru'n cael ei chyfran deg pan nad ydym yn cael ceiniog a Gogledd Iwerddon yn cael cil-dwrn o £1 biliwn, nid wyf yn deall a ydych yn dadlau dros Lywodraeth y DU yma neu'n dadlau dros eich etholwyr.