Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 15 Medi 2021.
Hyd yn hyn, nid ydym wedi cael y trafodaethau hynny gyda Llywodraeth y DU, gan nad ydynt wedi ymateb eto i'r llythyr a anfonwyd gennym fis Awst yn gofyn am y cyfarfod brys hwnnw. Ond credaf ei bod yn deg dweud y byddai unrhyw fath o ymrwymiad penagored gan Lywodraeth Cymru i gynnig cyfatebol i gynnig Llywodraeth y DU o ran ardrethi annomestig a threth dir y dreth stamp, neu dreth trafodiadau tir fel y'i gelwir yng Nghymru, yn peri risg i refeniw trethi Cymru hyd nes y cawn y trafodaethau hynny i gael gwell dealltwriaeth o'r polisi y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ei roi ar waith. Ac rydym yn fwy na pharod i gael y trafodaethau hynny, ond hyd yma, nid ydym wedi cael ateb i lythyr syml hyd yn oed.