Treth Incwm

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 15 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:10, 15 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Rydym wedi ymrwymo i beidio â mynd â rhagor o arian oddi ar deuluoedd Cymru drwy gyfraddau treth incwm Cymru, o leiaf cyhyd ag y bydd effaith economaidd y coronafeirws yn parhau. Mae ein holl drethi'n cael eu llywio gan ein hegwyddorion treth, a nodir yn ein fframwaith polisi trethi ac sy'n cynnwys bod yn glir, yn sefydlog ac yn syml a chefnogi'r gwaith o gyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru, ac yn benodol, cefnogi swyddi a thwf.