Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 15 Medi 2021.
Prynhawn da, Weinidog. Diolch i weithredoedd Llywodraeth y DU, bydd Cymru'n cael mwy na'i chyfran deg o'r cyfraniadau yswiriant gwladol ychwanegol. Mae'r ardoll ychwanegol ar yswiriant gwladol a difidendau wedi'i chlustnodi ar gyfer gwariant ar iechyd a gofal cymdeithasol. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd y £0.7 biliwn y bydd Cymru yn ei dderbyn o ganlyniad i ddiwygiadau cyllido Llywodraeth y DU yn cyrraedd gwasanaethau rheng flaen? A ydych yn credu y dylai'r cyllid a godir drwy'r ardoll gofal cymdeithasol gael ei neilltuo ac na ddylai fod yn rhan o'r grant cynnal refeniw a roddir i awdurdodau lleol? Rydych wedi bod yn galw am arian ychwanegol, a nawr eich bod wedi'i gael, mae'n hen bryd i chi ei siapio hi a nodi eich cynlluniau ar gyfer gofal cymdeithasol, gan nad ydych wedi gwneud hynny hyd yma.