Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 15 Medi 2021.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn trafod ffeithiau yn hytrach na ffuglen. Clywaf yr hyn a ddywedwch am Dŵr Cymru. Nid wyf yn ymwybodol o'r amgylchiadau, ond rydych wedi cofnodi'r peth yn awr a byddaf yn sicr yn mynd ar drywydd hynny, gan ei bod yn anodd iawn credu na wnaed unrhyw beth yn y ffordd a amlinellwyd gennych. Rwyf wedi gweithio'n barhaus gyda'r sector amaethyddol ar lygredd. Yn amlwg, fe fyddwch yn ymwybodol fod achos cyfreithiol yn mynd rhagddo ar hyn o bryd mewn perthynas â'n rheoliadau, felly mae'r hyn y gallaf ei ddweud yn gyfyngedig iawn, ond rwy'n sicr yn cytuno â chi y dylem ddiolch o galon i'r rhan fwyaf o'n ffermwyr, nad ydynt, yn sicr, yn llygru ein cefn gwlad ac sy'n sicrhau bod gennym fwyd ar ein platiau.