Unedau Dofednod Dwys

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 15 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:29, 15 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Fel roeddech chi'n cydnabod, mae'r gwaith hwnnw bellach yn rhan o bortffolio'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ond rwy'n deall bod disgwyl i'r gwaith dosrannu gael ei gwblhau erbyn diwedd eleni. Gwn fod ei swyddogion a'm swyddogion innau wedi gweithio'n agos iawn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i allu monitro cynnydd y prosiect hwnnw. Mae awdurdodau cynllunio lleol eisoes wedi'u hatal yn gyfreithiol rhag rhoi caniatâd cynllunio os ydynt yn ansicr a fydd datblygiad, naill ai'n unigol neu ochr yn ochr â chyfuniad o rai eraill, yn ychwanegu ffosffadau at ddyfroedd yr ACA, lle mae'r terfynau wedi'u croesi.