Trwsio Ffyrdd

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 15 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative 2:56, 15 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Prynhawn da, Weinidog. Cafodd llifogydd a achoswyd gan storm y gaeaf diwethaf—storm Christoph—effaith ddinistriol ar gymunedau yn Nyffryn Clwyd, yn enwedig gyda difa pont hanesyddol Llanerch, rhwng Trefnant a Thremeirchion, gan i hynny ynysu'r cymunedau hyn oherwydd eu bod yn wledig. Mae'r amcangyfrifon diweddaraf yn nodi y bydd y gwaith i ailadeiladu'r bont yn cychwyn yn haf 2023. Nid yw hyn yn dderbyniol yn fy marn i, nac ym marn dros 300 o fy etholwyr a lofnododd ddeiseb ar-lein yn ddiweddar i alw am ddatrysiad cyflym. A ydych yn cytuno â mi, Weinidog, y dylid ailadeiladu'r bont hanesyddol yn gynt ac a wnewch chi weithio gyda'r awdurdod lleol i gyflymu'r gwaith o ailadeiladu pont Llanerch? Diolch yn fawr iawn.