Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 15 Medi 2021.
Diolch am eich ateb. Mae'n siŵr y byddwch wedi dyfalu fy mod am grybwyll y B5605 yn Newbridge ger Wrecsam a gafodd ei hysgubo i ffwrdd, wrth gwrs, gan dirlithriad a achoswyd gan storm Christoph yn ddiweddar. Nid yw'n ffordd gefn wledig, fel y gwyddoch. Mae'n ffordd eithaf pwysig i nifer fawr o gymunedau, nifer fawr o bobl, ac mae'n dod i'r amlwg yn awr y gallai fod yn ddwy, efallai tair blynedd cyn i'r ffordd honno gael ei hatgyweirio, os o gwbl, os oes cyllid ar gael. Nawr, mae'r oedi eisoes wedi arwain at fwy o ymsuddiant ar y safle, a fydd yn y pen draw yn golygu mwy o gost i atgyweirio'r ffordd. Felly, yn eich rôl fel Gweinidog gogledd Cymru, a gaf fi ofyn pa ymdrechion rydych wedi'u gwneud i sicrhau bod atgyweirio'r ffordd hon yn fwy o flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac yn wir, pa ymdrechion rydych wedi'u gwneud i geisio sicrhau bod cyllid ar gael i atgyweirio'r ffordd cyn gynted â phosibl?