Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 15 Medi 2021.
Diolch. Rwy'n bwriadu creu system newydd o gymorth i ffermydd, sy'n gwneud y mwyaf o bŵer amddiffynnol natur drwy ffermio. Bydd hwn ar gael i bob math o ffermydd yng Nghymru, i wobrwyo ein ffermwyr gweithgar sy'n rhoi camau ar waith i ymateb i'r argyfwng hinsawdd ac argyfwng natur, gan eu cynorthwyo i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy.