Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 15 Medi 2021.
Diolch, Weinidog. Rwy'n croesawu'r rheolau newydd, a elwir yn anffurfiol yn gyfraith Lucy, a ddaeth i rym ddydd Gwener diwethaf, mewn perthynas â bridio cŵn a chathod bach yng Nghymru, ac rwy'n talu teyrnged i’r nifer fawr o sefydliadau, unigolion, gan gynnwys fy nghyd-Aelod, Janet Finch-Saunders, a llawer ar draws y Siambr hon sydd wedi ymgyrchu dros y gwelliannau a'r newidiadau hyn. Er bod y rheolau hyn yn cyrraedd ein llyfrau statud ryw 18 mis ar ôl ein cymdogion, rwy'n siŵr y byddant yn offeryn gwerthfawr yn y frwydr i ddileu ffermydd cŵn bach yn y dyfodol. Weinidog, gydag awdurdodau lleol yn cael eu grymuso gyda'r offer newydd hyn, pa sicrwydd y gallwch ei roi na fydd awdurdodau lleol yn ystyried hyn yn faich ariannol ychwanegol? A pha ystyriaeth a roddwyd i ddarparu pwerau ffurfiol i arolygwyr yr RSPCA o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006?