Dwyn Anifeiliaid Anwes

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 15 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 3:02, 15 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw drafodaethau penodol yn y ffordd a nodwyd gennych. Rwyf wedi amlinellu'r gwaith rydym yn ei wneud fel Llywodraeth i sicrhau bod ffocws ar hyn, oherwydd rydym yn sicr wedi gweld cynnydd mewn dwyn anifeiliaid anwes. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod perchnogion hefyd yn rhoi camau ar waith i sicrhau eu diogelwch. Rydym yn sicr wedi gweld achosion ofnadwy, a chredaf fod Sioned Williams newydd dynnu sylw at achos pwysig yn ei rhanbarth. Ond nid wyf yn ymwybodol o unrhyw drafodaethau penodol.