– Senedd Cymru am 3:10 pm ar 15 Medi 2021.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad 90 eiliad cyntaf y prynhawn yma gan Samuel Kurtz.
Diolch, Lywydd. Heddiw yw diwrnod blynyddol Cefnogi Ffermwyr Prydain Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, sy'n gyfle gwych i gydnabod, cefnogi a diolch i'n ffermwyr gweithgar o bob rhan o'r Deyrnas Unedig. Ffermio yng Nghymru yw conglfaen diwydiant y gadwyn gyflenwi bwyd a diod yng Nghymru sy'n werth £7.5 biliwn, ac mae'n cyflogi dros 229,500 o weithwyr ac yn cyfrannu miliynau o bunnoedd i economi Cymru. O gaws byd-enwog Eryri i datws cynnar sir Benfro sydd wedi'u codi â llaw ac wedi ennill gwobrau lluosog, mae ein ffermwyr yn gweithio 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn i ddarparu cynnyrch rhagorol i'r miliynau o deuluoedd ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig. Yn wir, Lywydd, diwrnod Cefnogi Ffermwyr Prydain yw'r cyfle perffaith i bob un ohonom ystyried cyfraniad y diwydiant drwy gydol y pandemig a thu hwnt. Yn ystod y pandemig hwn, fe ddaliodd ein ffermwyr ati i ofalu am y tir er mwyn sicrhau bod bwyd ar gael drwy'r amser. Wrth inni barhau i frwydro yn erbyn newid hinsawdd, ein ffermwyr, fel ceidwaid naturiol ein hamgylchedd, sy'n arwain y ffordd gyda'u safonau lles anifeiliaid a'u safonau amgylcheddol eithriadol. Felly, Lywydd, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n ymuno â mi i fanteisio ar y cyfle i ddweud 'diolch' wrth ein ffermwyr i gydnabod eu hymrwymiad a'u cyfraniad. Diolch.
Jack Sargeant sy'n gwneud y datganiad nesaf.
Diolch yn fawr, Lywydd. Dydd Gwener diwethaf oedd Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd. I lawer ohonom, mae'r diwrnod hwn yn un heriol ond mae'n un sy'n llawn o benderfyniad a gobaith hefyd—gobaith y gallwn, gyda'n gilydd, godi ymwybyddiaeth ynglŷn â sut y gallwn greu byd lle mae llai o bobl yn marw drwy hunanladdiad. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos, yn 2018 yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon, fod dros 6,800 o bobl wedi marw drwy hunanladdiad, ac rwyf am fod yn glir, Lywydd, fod pob bywyd a gollir i hunanladdiad yn drasiedi. Gallwn greu byd mwy diogel drwy godi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd eisoes ar gael, ac ymgyrchu dros well cymorth, mwy o gymorth i fod ar gael a chymorth sy'n haws cael gafael ynddo. Ond rhaid imi ddweud, Lywydd, mae'n fy mhoeni bod stigma sylweddol o hyd ynglŷn â pheidio â theimlo'n iawn. Ac nid oes gennyf gywilydd o gwbl, wrth sefyll yn y Siambr hon heddiw, i ddweud, weithiau, nad wyf bob amser yn teimlo'n iawn. Felly, Lywydd, ac Aelodau yn y Siambr, fel arfer rydych chi'n deall, ac rydym ni'n deall, pan fyddwn yn sefyll yn y Siambr hon, ein bod yn galw am rywbeth gan y Llywodraeth. Ond heddiw, rwy'n galw'n syml arnoch chi i gyd—galw am ffafr, os caf ei roi felly: holwch eich ffrindiau, holwch eich cydweithwyr a gofynnwch iddynt, 'A ydych chi'n teimlo'n iawn?' Gwnewch eu hatgoffa ei bod hi'n iawn i beidio â theimlo'n iawn, ac yn bwysig, byddwch yno iddynt pan fyddant eich angen. Diolch yn fawr. [Cymeradwyaeth.]
Y datganiad nesaf gan Heledd Fychan.
Ar 12 Medi 1981, fe ffurfiwyd CND Cymru mewn cynhadledd yn y Drenewydd. Ond, er ein bod yn dathlu’r garreg filltir bwysig hon, mae hyn yn chwerw-felys. Wedi'r cyfan, sefydlwyd y mudiad yn benodol i ymgyrchu yn erbyn arfau niwclear, a chydag arfau niwclear yn dal yn bresennol ledled y byd, mae'n destun tristwch i nifer bod rhaid i'r mudiad barhau i fodoli a pharhau i ymgyrchu. Dim ond pan fydd y taflegryn olaf un wedi ei ddadgomisiynu a'r byd yn rhydd o arfau dinistr torfol y gallwn ddathlu. Mae'r gwaith felly yn parhau, a hoffwn ddiolch heddiw i'r holl unigolion hynny yn ein cymunedau sydd wedi bod yn rhan o hanes y mudiad. Diolch iddynt hwy y llofnodwyd datganiad y Gymru ddi-niwclear yn Chwefror 1982, gan olygu mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddatgan ei bod yn barth di-niwclear. A diolch iddyn nhw, mae CND Cymru wedi bod yn gweithredu fel partner yr ymgyrch ryngwladol i ddiddymu arfau niwclear. Gofynnodd llywydd CND Cymru, Jill Evans, inni ymuno â'r dathlu drwy ailddatgan ein hamcan i gael gwared ag arfau niwclear. Yng ngeiriau Jill, 'Mae arfau niwclear yn rhy beryglus ac yn rhy ddrud. Maent yn anfoesol ac yn anghyfreithlon. Byddai cael gwared ag arfau niwclear yn gosod cyfeiriad newydd, diogel a gwell i Gymru a'r byd.' Clywch, clywch.
A nesaf, Sioned Williams.
Diolch, Llywydd. Mae cymuned cwm Tawe—y gymuned lle dwi'n byw a'r gymuned dwi'n ei chynrychioli—a Chymru gyfan yn cofio heddiw am drychineb pwll glo'r Gleision, a hithau'n 10 mlynedd yn union ers y drychineb. Ar 15 Medi 2011, lladdwyd pedwar glöwr lleol, sef Charles Breslin, David Powell, Phillip Hill a Garry Jenkins, ym mhwll y Gleision yng Nghilybebyll ger Pontardawe, pan lifodd dŵr i'r pwll glo. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yma yn meddwl am y teuluoedd heddiw. Mae galar yn broses hynod o anodd ynddo'i hun o dan unrhyw amgylchiadau, ond, yn yr achos yma, mae'r teuluoedd yn gorfod wynebu poen ychwanegol am na chynhaliwyd cwest llawn. Mae dal angen ateb cwestiynau am yr hyn ddigwyddodd, a dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol am beryglon sy'n dal i fodoli, yn anffodus, yn y diwydiant glo. Hoffwn gefnogi eu galwad am gwest i'r marwolaethau.
Effeithiodd y drychineb yn fawr ar gymunedau cwm Tawe, ac fe fydd dau ddigwyddiad yn cael eu cynnal heddiw i gynnal y cof am y pedwar a gollwyd. Bydd dram coffa arbennig yn cael ei ddadorchuddio gan Gyngor Cymuned Cilybebyll ym mharc Rhos, sef y man ble daeth y teuluoedd i aros am y newyddion 10 mlynedd yn union yn ôl i heddiw, ac am 18:00 bydd Cyngor Cymuned Ystalyfera yn dadorchuddio mainc goffa.
Mae pris glo wedi bod yn rhy uchel yng Nghymru. Rhaid inni sicrhau bod popeth yn cael ei wneud fel nad oes rhagor o deuluoedd fel rhai glowyr y Gleision yn talu'r pris ofnadwy ac annerbyniol hwn. Cofiwn amdanynt heddiw.
Byddwn ni nawr yn cymryd egwyl fer i wneud ambell newid yn y Siambr, Felly, yr egwyl.