Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 15 Medi 2021.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon. Mae'r ystadegau'n amlwg yn peri pryder, a dylai cyfraddau goroesi ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty fod yn ddigon, ar eu pen eu hunain, i'n cael ni i weithredu. Mae yna ychydig o heriau, fodd bynnag. Yn gyntaf, nid wyf yn credu bod ein gwlad yn gweithio'n ddigon cyflym i adeiladu mwy o gapasiti yn ein rhwydwaith o ddiffibrilwyr. Yn ystod toriad yr haf, ymwelais â fferyllfa gymunedol a chefais fy synnu gan y cynnydd araf wrth gyflwyno cyflenwad digonol o ddiffibrilwyr ledled y fferyllfeydd lleol gwych. Wrth gefnogi’r alwad i sicrhau bod cyllid ar gael i leoliadau ledled Cymru i ddarparu rhwydwaith o ddiffibrilwyr, rwyf eisiau i’r Llywodraeth ymrwymo i sicrhau bod gan bob fferyllfa gymunedol fynediad at gymorth, fel rhan allweddol a hanfodol o’n gwasanaeth iechyd. Mae fferyllfeydd cymunedol yn cynnwys nifer o staff sydd â'r sgiliau i ymateb i anghenion y boblogaeth leol. Beth am wneud gwell defnydd o fferyllfeydd cymunedol, sy'n rhan allweddol o'n trefi a'n pentrefi, a gweithwyr proffesiynol sy'n dod i gysylltiad â llawer o bobl bob dydd? A allai'r Gweinidog gadarnhau faint o fferyllfeydd cymunedol sydd â diffibrilwyr heddiw, o gymharu â dwy neu dair blynedd yn ôl?
Yn ail, yn ôl Sefydliad Prydeinig y Galon, llai na 5 y cant o bobl sy’n dioddef ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty sy'n cael triniaeth ddiffibrilio gan rywun sy'n digwydd bod yno, a cheir degau o filoedd o ddiffibrilwyr nad yw’r gwasanaethau ambiwlans yn ymwybodol ohonynt ar hyn o bryd am nad ydynt wedi’u cofrestru. Yn amlwg, gall gwybod am leoliad diffibriliwr olygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw. Er bod angen inni fynd i'r afael â nifer gyffredinol y diffibrilwyr, mae angen inni hefyd sicrhau bod pob uned wedi'i chofrestru fel y gall y gwasanaethau brys ddod o hyd iddynt, ac efallai mai un ffordd o ddod o hyd i ddiffibriliwr pan fydd aelod o'r cyhoedd yn galw am ddefnyddio un fydd system debyg i'r ffonau AA ar draffyrdd, sy'n rhoi'r union leoliad. Yn drydydd, mae Cyngor Dadebru'r DU yn cyflwyno achos cryf dros wella gwybodaeth a chyngor i bobl er mwyn meithrin hyder ymhlith y boblogaeth i ddefnyddio diffibriliwr mewn argyfwng. Mae hyn yn wir ar gyfer darparu CPR heb fod diffibriliwr ar gael hefyd, ac yn fwy heriol oherwydd y camau uniongyrchol sydd angen i’r unigolyn eu cyflawni i'w ddarparu. Byddwn hefyd yn gofyn i'r Llywodraeth adolygu ei chynllun ei hun ar gyfer ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty, a gyhoeddwyd yn 2017. Mae'n nodi'n glir mai un o ganlyniadau allweddol y cynllun yw bod diffibrilwyr,
‘ar gael i’r cyhoedd yn hwylus.’
Mae hefyd yn nodi’r canlyniad fod y cyhoedd
‘yn gwybod ei bod yn hawdd defnyddio diffibrilwyr ac na allant achosi niwed.’
Mae hynny wedi’i ysgrifennu yn hwn. Hoffwn ofyn i’r Gweinidog a wnaed unrhyw waith meincnodi mewn perthynas â chynllun 2017 wrth ei ysgrifennu, a lle'r ydym arni yn awr ar sicrhau’r gwelliant i allu a hygyrchedd. Mae’r cynllun yn un synhwyrol ac mae’r bwriad yn glir, ond mae’r bennod ar weithredu yn wan wrth geisio disgrifio llwyddiant. Dywed.
‘Er bod gwaith sylweddol wedi’i wneud ar rai elfennau o’r llwybr, mae angen ffocws a chamau buan i ddatblygu’r manylion ar draws y cynllun i gyd a’i roi ar waith ledled Cymru.’
Edrychodd adroddiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2018 ar wybodaeth, agwedd ac ymddygiad y cyhoedd tuag at CPR a diffibrilwyr. Daeth yr arolwg i'r casgliad fod y gyfran a hyfforddwyd i ddefnyddio diffibriliwr yn llawer is na’r gyfran a hyfforddwyd i roi CPR, gyda dim ond 23 y cant o'r holl ymatebwyr yn nodi eu bod wedi cael hyfforddiant. Er hynny, nododd dros 50 y cant o bobl y byddent yn hoffi cael rhywfaint o hyfforddiant. O ran defnyddio diffibrilwyr, roedd lefel yr hyder yn is nag ar gyfer y rhai sy'n rhoi CPR, gyda dim ond 38 y cant o'r ymatebwyr yn dweud y byddent yn hyderus. Roedd lefelau hyder yn uwch ymhlith y rhai a hyfforddwyd mewn CPR neu sut i ddefnyddio diffibrilwyr, ar 55 y cant ac 88 y cant yn eu tro.
Fodd bynnag, mae'n destun pryder nad oedd 55 y cant o’r ymatebwyr yn gwybod lle'r oedd eu diffibriliwr agosaf. Hyd yn oed ymhlith y rhai a gafodd hyfforddiant diffibrilio, nododd 35 y cant nad oeddent yn gwybod lle'r oedd eu diffibrilwyr agosaf—